Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Gweld ein swyddi diweddaraf
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Archwilydd Penodedig yn darganfod ffaeleddau o bwys mewn trefniadau llywodraethu a diffygion mewn prosesau i bennu cyflog Prif Swyddogion
Mae adroddiad er budd y cyhoedd ynghylch y prosesau a fabwysiadwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili er mwyn pennu cyflog prif swyddogion wedi'i gyhoeddi heddiw.
Bu'r adroddiad yn ystyried a oedd yr awdurdod lleol wedi gweithredu'n briodol wrth wneud penderfyniad ym mis Medi 2012 i gynyddu cyflog ei brif swyddogion.
Dyma a ddywedodd yr Archwilydd Penodedig a'r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Anthony Barrett, heddiw: "Yn fy marn i, mae'n bwysig bod gan y cyhoedd wybodaeth lawn a chywir am y digwyddiadau sy'n ymwneud â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rwyf hefyd o'r farn ei bod yn briodol rhoi cyfle i'r Cyngor esbonio'r camau pwysig y mae wedi'u cymryd i wella trefniadau a sicrhau bod y risg y gallai ffaeleddau o'r fath ddigwydd eto'n cael ei lleihau gymaint ag sy'n bosibl.
Dyma a ddywedodd yr Archwilydd Penodedig a'r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Anthony Barrett, heddiw:
"Yn fy marn i, mae'n bwysig bod gan y cyhoedd wybodaeth lawn a chywir am y digwyddiadau sy'n ymwneud â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rwyf hefyd o'r farn ei bod yn briodol rhoi cyfle i'r Cyngor esbonio'r camau pwysig y mae wedi'u cymryd i wella trefniadau a sicrhau bod y risg y gallai ffaeleddau o'r fath ddigwydd eto'n cael ei lleihau gymaint ag sy'n bosibl.
"Rwyf wedi dod i'r casgliad bod y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Uwch Staff ar 5 Medi 2012 i gymeradwyo'r strwythur cyflog a nodwyd yn adroddiad y Prif Weithredwr yn anghyfreithlon am sawl rheswm.
"Y rheswm cyntaf yw na chafodd cyfarfod y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Uwch Staff ei hysbysebu'n gywir yn unol â'r Ddeddf Llywodraeth Leol, ac nad oedd yr agendâu ar gyfer y cyfarfod ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio, fel y dylai fod wedi digwydd.
"Roedd rhai swyddogion penodol, gan gynnwys y Prif Weithredwr, y byddai'r penderfyniad wedi bod o fudd iddynt (ac yr oedd y penderfyniad o fudd iddynt) yn bresennol drwy gydol y cyfarfod i gymeradwyo'r codiadau cyflog. Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant ac ni adawodd y swyddogion hyn yr ystafell tra y gwnaed y penderfyniad. O ganlyniad bu iddynt gymryd rhan yn y broses o wneud y penderfyniad, pan oedd ganddynt fudd ariannol a oedd yn golygu nad oeddent yn gymwys i wneud hynny.
"Yn ogystal cafodd yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor ei ysgrifennu gan y Prif Weithredwr, a wnaeth elwa'n uniongyrchol o'r penderfyniad ac a roddodd gyngor ynghylch mater yr oedd ganddo fudd ariannol ynddo.
"Yn olaf, nid yw'r adroddiad hwn wedi ystyried yr ystod lawn o opsiynau a nodwyd. At hynny, ni chafodd yr opsiynau hynny eu hystyried yn fanwl ac yn benodol yng nghyfarfod y Pwyllgor."
Daeth Anthony Barrett i'r casgliad canlynol:
"Rwyf o'r farn y gellir, ac yn wir y dylid, dysgu llawer ynghylch y prosesau a ddilynwyd gan y Pwyllgor T Cydnabyddiaeth Uwch Staff. Mae swyddogion y Cyngor wedi dangos i mi eu bod yn derbyn bod gwersi i'w dysgu."
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion: