Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Tipio anghyfreithlon

  • Tipio anghyfreithlon mewn lôn
  • Beth rydyn ni'n ei wneud

    Bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar sut mae cynghorau yn atal achosion o dipio anghyfreithlon ac yn ymateb iddynt ac i wella gwerth am arian o ran eu dull gweithredu. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar y dull gweithredu a gymerwyd mewn cynghorau gydag achosion uchel ac isel o dipio anghyfreithlon, yn ogystal â'r rhai sydd â chostau uchel ac isel. Byddwn hefyd yn ceisio nodi arferion o wledydd eraill a allai hefyd helpu cynghorau i wella eu dulliau gweithredu. Bydd y rhain yn llywio ein hargymhellion a fydd yn canolbwyntio ar feysydd lle gall cynghorau wella economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eu dull gweithredu o ran atal tipio anghyfreithlon ac ymateb iddo.
     

    Pam rydyn ni'n ei wneud

    Tipio anghyfreithlon yw gollwng gwastraff yn anghyfreithlon yn hytrach na'i waredu mewn lle awdurdodedig, fel canolfan ailgylchu. Mae'n drosedd a all arwain at ddirwy neu ddedfryd o garchar. Pan adroddir am y rhan fwyaf o achosion o dipio anghyfreithlon, mae cynghorau yn gyfrifol am ymateb iddo a chymryd camau gorfodi.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol lle mae'n digwydd ar ei dir neu mewn prif afon.

    Mae ymateb i dipio anghyfreithlon yn golygu costau niferus. Mae'r rhain yn deillio o gasglu a gwaredu gwastraff ond hefyd o'r effaith ar gymunedau a'r amgylchedd. Mae hyn yn gwneud atal tipio anghyfreithlon yn hanfodol i gynghorau a CNC.
     

    Pryd fyddwn ni'n adrodd

    Haf 2027