Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae'r GIG yn ei chael yn anodd rheoli costau o ddydd i ddydd er gwaethaf cynnydd parhaus mewn cyllid

15 Gorffennaf 2026
  • Galw am wasanaethau, a chyflogau a chostau eraill yn cynyddu, yn rhoi pwysau parhaus ar gyllid y GIG

    Dangosodd ein harchwiliad o gyfrifon 2025-26 cyrff y GIG fod chwech o'r saith bwrdd iechyd wedi torri eu dyletswydd i fantoli eu cyllidebau dros gyfnod o dair blynedd.

    Mae cyfrifon 2025-26 deuddeg corff y GIG yn cyflwyno eu sefyllfa ariannol yn deg. Fodd bynnag, unwaith eto methodd chwech o'r saith bwrdd iechyd â chyflawni eu dyletswydd i fantoli eu cyfrifon dros gyfnod o dair blynedd. Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei farn amodol ar reoleidd-dra ar gyfer y cyrff hynny oherwydd bod methu â chyflawni'r ddyletswydd hon yn golygu eu bod wedi gwario mwy nad yr oedd ganddynt yr awdurdod i’w wario.

    Mae'r tair ymddiriedolaeth GIG wedi bodloni'r ddyletswydd tair blynedd. Felly hefyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, er i'r Archwilydd Cyffredinol roi barn amodol ar reoleidd-dra ar gyfer y corff hwnnw oherwydd mater ar wahân yn ymwneud â dau gyfarwyddwr gweithredol dros dro yn cael eu talu uwchlaw'r lefelau cydnabyddiaeth ariannol a bennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i'r ddau awdurdod iechyd arbennig – Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru – fantoli eu cyllidebau bob blwyddyn, ac maen nhw wedi gwneud hynny.

    Derbyniodd GIG Cymru £12.39 biliwn o gyllid refeniw yn 2025-26, cynnydd o £823 miliwn ar 2024-25 a thua £2.63 biliwn yn fwy nag yn 2021-22. Roedd cyllid 2025-26 3.8% yn fwy mewn termau real nag yn 2024-25 wrth gyfrif am chwyddiant cyffredinol.

    Yn 2025-26, diffyg blynyddol GIG Cymru oedd £199 miliwn. Roedd hynny'n £75 miliwn yn uwch nag yn 2024-25. Cynyddodd y diffyg cronnol dros dair blynedd i £506 miliwn (o £457 miliwn yn 2024-25).

    Yn gadarnhaol, gostyngodd gwariant ar staff asiantaeth eto yn 2025-26, ac ar £128 miliwn roedd 61% yn is nag yr oedd ar ei uchaf yn 2022-23. Mae'r rhan fwyaf o'r gwariant hwn, 73%, yn parhau i ymdopi â swyddi gwag staff, gyda thua 15% yn cefnogi gweithgarwch ychwanegol i helpu i ateb y galw.

    Mae cyrff y GIG yn gorfod cyflawni arbedion mewn ymgais i reoli costau. Cynyddodd yr arbedion a adroddwyd eto yn 2025-26 i £256 miliwn. Fodd bynnag, dim ond £3 miliwn yn fwy nag yn 2024-25 yr oeddynt, gydag arbedion cylchol yn gostwng ac yn cael eu gorbwyso gan gynnydd mewn arbedion untro. Ar y cyfan, mae'r GIG yn dal i ddibynnu gormod ar gynilion untro, ac nid yw'r proffil cynilo presennol yn ddigon i atal y llanw o alw cynyddol a phwysau cost eraill, gan gynnwys cyflogau staff.

    Mae gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ddyletswydd hefyd i fod â chynllun tair blynedd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i'r cynllun nodi sut y byddant yn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion iechyd eu poblogaeth yng nghyd-destun y cyllid sydd ar gael. Dim ond un bwrdd iechyd a gymeradwywyd, sef Cwm Taf Morgannwg am yr ail flwyddyn yn olynol. Cymeradwywyd eu cynlluniau gan y tair ymddiriedolaeth GIG hefyd. Gyda'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn dal i fethu â chynhyrchu cynlluniau sydd wedi’u mantoli yn ariannol, mae'n annhebygol y bydd sefyllfa diffyg cyffredinol y GIG yn gwella yn y dyfodol agos.

    Gall pwysau ariannol, a'r ymateb iddynt, ysgogi pwyslais ar y sefyllfa tymor byr yn ystod y flwyddyn. Ond rydym wedi tynnu sylw yn flaenorol at yr angen am gynllunio tymor hirach, newidiadau i'r system gyfan, a phwyslais cryfach ar atal i helpu i ddiogelu dyfodol ariannol y GIG.

    Mae ein Offeryn Data Cyllid GIG Cymru 2025-26 wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'n rhoi mwy o fanylion am sefyllfaoedd ariannol cyrff y GIG.

    ,
    Archwilio'r GIG, y maes unigol mwyaf o wariant cyhoeddus datganoledig, yw un o'r pethau pwysicaf rydyn ni'n ei wneud yn Archwilio Cymru. Wrth i mi orffen fy nhymor fel Archwilydd Cyffredinol, rwyf eisiau cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud i baratoi cyfrifon cyrff y GIG a'u harchwilio mewn modd amserol. Fodd bynnag, y darlun a gafwyd gan y cyfrifon hynny yw pwysau ariannol ar y GIG nad yw'n cael ei reoli, heb sôn am ei wrthdroi. Mae hynny wedi bod yn batrwm parhaus yn ystod fy nhymor wyth mlynedd, wedi'i waethygu gan effeithiau pandemig COVID-19 a'r galw cynyddol. Fel yr wyf wedi nodi yn flaenorol, mae hyn er i'r Senedd basio Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014, dros ddegawd yn ôl, i bennu’r dyletswyddau ariannol a chynllunio y disgwylir i gyrff y GIG eu bodloni. Ni fydd troi'r llanw ar wariant y GIG yn hawdd ond mae'n rhaid gwneud hynny. Ar gyfer y GIG, fel ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol, mae angen pwyslais llawer mwy craff a di-baid ar ddarparu gwerth am arian, ochr yn ochr â newid meddylfryd i un sy'n canolbwyntio ar atal a'r tymor hirach. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol