Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Ar ôl degawd o gyllidebau wedi cael eu gwasgu a mwy a mwy o alw amdano, mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio i fynd i'r afael â thair argyfwng fyd-eang.
Mae ein hadroddiad diweddaraf 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus' yn nodi rhai meysydd pwysig ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r adroddiad wedi'i rannu'n dair rhan – yr hyn a ddigwyddodd gyda gwasanaethau cyhoeddus rhwng 2010 a 2020, sut maent wedi ymateb i COVID-19, a'r heriau a'r cyfleoedd mwyaf, yn ein barn ni, i wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Yn ogystal ag wynebu'r pandemig ac ansicrwydd economaidd, rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ymateb i argyfwng byd-eang o newid hinsawdd.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dyrannu £5.1 biliwn i ymateb i COVID-19 yn 2020-21 ac mae ganddo o leiaf £2.6 biliwn ychwanegol ar gael yn 2021-22. Mae cyllid cyhoeddus yn ansicr ond mae'n debygol o fod yn dynn am beth amser; ac ar gyfer gwasanaethau sydd yn barod wedi'u hymestyn, mae'r pandemig wedi creu heriau newydd. Er enghraifft, amcangyfrifwyd y bydd angen rhwng £152 miliwn a £292 miliwn ar y GIG bob blwyddyn am 4 blynedd i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros.
Er gwaethaf hyn, mae ein hadroddiad yn pwysleisio bod cyfle i ddysgu o agweddau o’r ymateb i’r pandemig i newid y ffordd y caiff gwasanaethau ei ddarparu er gwell. Mae'n tynnu sylw at bum maes o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus:
Mae'r adroddiad hwn yn adrodd hanes am bwysau a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus dros y degawd diwethaf ac yn nodi rhai o'r meysydd pwysicaf lle byddaf yn disgwyl gweld cynnydd yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar bobl a chymunedau, ac eto mae hefyd wedi dangos cryfderau mawr yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwasgu'r gwerth mwyaf allan o'r adnoddau sydd ar gael i wella lles unigolion a chymunedau.