Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Potensial i arbed arian wedi’i amlygu gan astudiaeth beilot paru data ein fferylliaeth gymunedol.

23 Mai 2024
  • Heddiw, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi rhannu canlyniadau prosiect peilot data fferylliaeth gymunedol y mae Archwilio Cymru wedi’i gynnal, gan weithio gyda Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru.

    Nod y gwaith hwn oedd dadansoddi data dosbarthu fferylliaeth gymunedol ar raddfa fawr, er mwyn rhoi dealltwriaeth i GIG Cymru o feysydd cost uchel a thwyll posibl. Roedd y gwaith hwn hefyd yn gyfle i ddatblygu arbenigedd Archwilio Cymru mewn technegau dadansoddi twyll.

    Mae twyll a gwallau yn heriau sylweddol i gyllid cyhoeddus yng Nghymru. Rydyn ni eisoes wedi amcangyfrif bod twyll a gwallau’n costio rhwng £100 miliwn ac £1 biliwn bob blwyddyn i wasanaethau cyhoeddus Cymru.

    Mae ein tîm Dadansoddi Data wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr o dîm Atal Twyll GIG Cymru ar brosiect peilot sy’n astudio data dosbarthu fferyllfa gymunedol, o ystyried bod fferylliaeth gymunedol yn faes o wariant sylweddol gyda risgiau twyll hysbys.

    Gwnaeth ein peilot gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gwnaethom ganolbwyntio ein dadansoddiad ar dri maes risg hysbys o ran twyll a chost:

    • Fformiwleiddiadau cost uwch - Gall fformiwleiddiadau gwahanol (e.e. hylifau, tabledi, capsiwlau, eli, wedi’u brandio a heb eu brandio ac ati) o’r un sylwedd gweithredol amrywio’n fawr o ran pris.
    • Eitemau drud: Eitemau â chost chynhwysion net o £100 neu fwy.
    • Archebion Arbennig: Eitemau sydd angen eu paratoi’n arbennig gan wneuthurwr cofrestredig.

    Er ei fod yn destun amrywiol gafeatau, rydym yn amcangyfrif y gallai tua £700,000 fod wedi ei arbed gan y GIG yng Nghymru yn ystod cyfnod  tair blynedd y cynllun peilot, drwy leihau costau sy’n gysylltiedig ag Archebion Arbennig.

    Ac er na wnaethom ddarganfod unrhyw dystiolaeth o dwyll amlwg, gwnaethom dynnu sylw’r byrddau iechyd at nifer o allanolynnau. O’r allanolynnau hyn, gwnaethom nodi gordaliadau gwerth cyfanswm o £22,000, sydd bellach yn cael eu hadfer.

    Heddiw, rydym yn cyhoeddi llythyr sy’n crynhoi ein gwaith ac yn cynnwys cwestiynau i’r GIG yng Nghymru eu gofyn wrth iddo weithredu ar ein canfyddiadau.  

    Byddwn yn elwa ar y dysgu o’r peilot ac yn ceisio ymgymryd â phrosiectau dadansoddi twyll newydd, gan gynnwys un gan ddefnyddio dull paru data i archwilio a yw cleifion wedi’u cofrestru’n gywir mewn rhestrau meddygon teulu.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Peilot Paru Data Fferylliaeth Gymunedol

    View more