Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae heddiw'n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, digwyddiad byd-eang i ddathlu cyflawniadau rhyfeddol merched. Mae'r dathliad hefyd yn gyfle i dynnu sylw at yr anghydraddoldebau y mae menywod yn dal i'w hwynebu a sut y gall pobl gymryd rhan i sicrhau newid. Thema eleni yw #DewisHerio. Drwy herio'r rhagdybiaethau o ran rhywedd sy'n ein hwynebu ac rydyn ni’n eu gweld, rydym yn cymryd rhan weithredol a chadarnhaol yn y newid rydym am ei weld ar gyfer byd mwy cynhwysol.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o ragdybiaethau ac anghydraddoldeb o ran rhywedd, trefnwyd sesiwn cinio a dysgu mewnol i drafod rhai o'r anghydraddoldebau y mae menywod yn eu hwynebu. Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, hoffem rannu rhywfaint o'r ymchwil a gynhyrchwyd gan fenywod ar draws Archwilio Cymru sy'n amlygu rhagdybiaethau o ran rhywedd.
Mae rhagdybiaethau o ran rhywedd yn cwmpasu cymaint mwy na'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau sy'n parhau i ffafrio dynion ac a oedd yn 11.6% yn 2020 ledled Cymru [agorir mewn ffenest newydd]. I'w roi mewn ffordd arall, y cyflog canolrif fesul awr i ddynion oedd £13.28 o'i gymharu ag £11.74 i fenywod.
Mae rhagdybiaethau o ran rhywedd:
Fel sefydliad, mae gennym fwy i'w wneud o hyd i leihau ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau ein hunain ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella. Yn Rhagfyr 2020 fe wnaethom gyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb [agorir mewn ffenestr newydd] sy’n amlinellu ein hymrwymiadau i ddarparu gweithle sy’n gwerthfawrogi ein holl amrywiaeth.
O ganlyniad i drafodaethau mewnol am ragdybiaethau o ran rhywedd a sut y gallwn wella mae rhai cydweithwyr wedi cynnal ymchwil ar y mater. Mae ein Swyddog Dadansoddi Data, Rachel Brown, wedi cynhyrchu ymchwil ar sut mae COVID-19 wedi effeithio'n anghymesur ar y gweithlu benywaidd. Gallwch ddod o hyd i'w hymchwil yn adran blogiau ein gwefan [yn agor mewn ffenestr newydd].
I gael gwybod mwy am Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched a sut i gymryd rhan, ewch i wefan Diwrnod Rhyngwladol y Merched [agorir mewn ffenestr newydd]. Mae eu gwefan yn cynnwys nifer fawr o adnoddau ar hanes Diwrnod Rhyngwladol y Merched (oeddech chi'n gwybod bod y cyfarfod cyntaf wedi’i gynnal yn 1911?) a sut y gall pobl gymryd rhan.
Nid 'mater i fenywod' yw rhagdybiaethau o ran rhywedd – mae angen i ddynion a menywod wneud ein rhan i fynd i'r afael ag ef. Mae’r mudiad HeForShe [agorir mewn ffenestr newydd] yn annog dynion i ymrwymo i weithredu ar gyfer byd sy'n gyfartal o ran rhywedd.
Fel unigolion a sefydliadau mae llawer y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â rhagdybiaethau o ran rhywedd gan gynnwys:
Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched a #DewisHerio.