Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Cynhadledd Flynyddol CLlLC 2026

25 Medi 2026
Mewn araith yng nghynhadledd flynyddol CLlLC yn Abertawe, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan ganolbwyntio ar atal, cydweithio a chanlyniadau gwell i bobl yng Nghymru.

Cyflwyniad

"P'nawn da.

Diolch, Sian, am y cyflwyniad caredig yna, a diolch i CLlLC am fy ngwahodd i heddiw.

Rwy'n wirioneddol falch iawn o fod yma yn yr adeilad godidog hwn, Neuadd Brangwyn. Agorwyd ym 1934, yn ystod y 'Dirwasgiad Mawr', ac mae'n ein hatgoffa bod cymunedau wedi parhau i fuddsoddi yn eu dyfodol hyd yn oed ar yr adegau mwyaf heriol. Buddsoddiad sydd wedi gwasanaethu am 90 mlynedd a mwy ac sy’n dal i fynd!

Dyma fy araith allanol gyntaf fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, felly byddwch yn garedig os gwelwch yn dda!  

Rwy'n arbennig o falch bod fy anerchiad cyntaf fel Archwilydd Cyffredinol i gynulleidfa y mae ei phenderfyniadau yn effeithio ar fywydau pob dydd pobl ym mhob cymuned ledled Cymru. 

Rwyf am ddechrau trwy gydnabod yr amgylchedd gweithredu heriol sy'n wynebu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol.

Mae graddfa'r her yn enfawr: mae cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd, darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, ymateb i gyfrifoldebau newydd ac anghenion cynyddol gymhleth, a gwneud hyn i gyd mewn oes o gyfyngiadau ariannol parhaus yn ymrwymiad aruthrol.

Ond mae'r pwysau hyn yn eistedd o fewn tirwedd hyd yn oed yn fwy eang a chymhleth. Rydym yn gweithredu yn yr hyn a ddisgrifir yn aml fel oes ôl-wirionedd, lle gall cyfryngau cymdeithasol ymhelaethu ar gamwybodaeth a thanseilio hyder mewn sefydliadau cyhoeddus. Rydym yn wynebu risgiau seiberddiogelwch a diogelwch data cynyddol, heriau parhaus wrth ragweld a recriwtio a chadw'r gweithlu a'r sgiliau sydd eu hangen arnom, ac yn ddi-os rydym i gyd yn ystyried potensial trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial. Mae cyflymder a graddfa'r newid yn ddi-baid ac, mewn sawl ffordd, yn ddigynsail. Yn aml, mae newid yn symud mor gyflym fel y gall cynllunio ar ei gyfer, neu hyd yn oed ei ddeall yn llawn, deimlo'n anodd iawn.

Wrth i Gymru barhau i esblygu drwy ddatganoli, bydd cyfleoedd a chyfrifoldebau newydd yn dod i'r amlwg. Yn fwy nag erioed, bydd llwyddiant yn dibynnu ar bartneriaethau cryf, cydweithredu effeithiol, a dulliau cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Gyda'i gilydd, mae'r tueddiadau hyn yn codi cwestiwn pwysig: sut ydyn ni'n meddwl am y dyfodol, a chynllunio ar ei gyfer, pan fo gofynion heddiw mor ddybryd?

Er nad oes atebion syml, rwy'n cael fy nharo gan y gwydnwch, yr arloesedd a'r ymrwymiad a welaf ar draws llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae hynny'n bwysig oherwydd bod llywodraeth leol yn ganolog i'r ateb.  

Oherwydd trwy lywodraeth leol y mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael profiad o wasanaethau cyhoeddus. Gwasanaethau lleol yn aml yw lle mae barn y cyhoedd yn cael ei ffurfio am effeithiolrwydd y wladwriaeth yn ei chyfanrwydd ac ansawdd darparu gwasanaethau cyhoeddus.  

Mae'r arweinyddiaeth a ddarperir gan CLlLC a llywodraeth leol yn ehangach felly yn hanfodol.  

Ac mae denu a chadw arweinwyr galluog – gweithredol a gwleidyddol – yn hanfodol.  Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod y gwaith rhagorol sy'n digwydd – a dod o hyd i'r enghreifftiau o lwyddiant i annog a chefnogi cynnydd – ac annog pobl dda i arweinyddiaeth leol gan gredu y gallant fod yn llwyddiannus.  

Felly, mae fy neges allweddol gyntaf heddiw yn syml: mae Archwilio Cymru a minnau, fel yr Archwilydd Cyffredinol, wedi ymrwymo'n llwyr i ymgysylltu adeiladol â llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym rolau gwahanol, ond rydym i gyd yn rhan o'r un ecosystem, gan weithio tuag at ganlyniadau gwell i holl bobl Cymru. 

Ar ôl myfyrio ar rai o'r heriau sy'n wynebu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus, mae'n werth gofyn cwestiwn gwahanol: sut olwg sydd ar lwyddiant i Gymru?

Gellir mesur llwyddiant, wrth gwrs, mewn gwahanol ffyrdd. 

Yn gyntaf, mae yna bethau y gallwn eu mesur yn wrthrychol. A yw gwasanaethau cyhoeddus yn gwella? A yw pobl yn byw bywydau iachach, mwy diogel a mwy ffyniannus? A yw cyrff cyhoeddus yn cyflawni canlyniadau gwell, ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau prin? 

Ond mae yna fesurau eraill yr un mor bwysig. A yw pobl yn teimlo bod pethau'n gwella? Ydyn nhw'n credu bod gwasanaethau cyhoeddus yno iddyn nhw pan fydd eu hangen arnynt? Ydyn nhw'n ymddiried yn y sefydliadau sy'n eu gwasanaethu, ac yn teimlo'n hyderus bod y sefydliadau hynny'n deall yr heriau maen nhw'n eu hwynebu? 

Yn y pen draw, nid yw llwyddiant yn ymwneud â dangosyddion perfformiad, canlyniadau ariannol neu gyflawniadau sefydliadol yn unig. Mae'n ymwneud â p'un a yw pobl Cymru yn profi gwelliannau gweladwy yn eu bywydau bob dydd ac a oes ganddyn nhw hyder yn y gwasanaethau y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw heddiw neu efallai y bydd angen iddyn nhw ddibynnu arnyn nhw yn y dyfodol. 

Dyna pam mae data da yn bwysig. Wedi'i ddefnyddio'n dda, mae'n ein helpu i ddeall nid yn unig beth mae gwasanaethau yn ei wneud, ond a ydyn nhw’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl.  

Yn gynharach eleni, dangosodd data Llywodraeth Cymru fod y gyfradd ailgylchu trefol wedi codi o 66.6% yn 2023-24 i 68.4% yn 2024-25, i fyny o tua 5% cyn datganoli.  

Mae Cymru bellach yn ail yn y byd o ran ailgylchu!  

Mae'r ffigurau hyn yn gwneud mwy na dangos perfformiad cryf. Maen nhw’n adrodd stori am newid ymddygiad parhaus, buddsoddiad hirdymor a gweithredu ar y cyd gan ddinasyddion, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus dros nifer o flynyddoedd.  

Yn hynny o beth, mae sut olwg sydd ar lwyddiant i Gymru yn cyd-fynd yn agos â'r blaenoriaethau sy'n cael eu hybu gan CLlLC.

Mae llwyddiant yn golygu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, democratiaeth leol gref, cymunedau ffyniannus, ac ymddiriedaeth y cyhoedd

Ac yn gynyddol, mae'n golygu cofleidio dulliau sy’n seiliedig ar le o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Anaml y mae'r atebion mwyaf effeithiol wedi'u cynllunio ar wahân. Maen nhw’n cael eu llunio gan amgylchiadau lleol, wedi'u llywio gan wybodaeth leol, ac yn cael eu cyflwyno trwy bartneriaeth.

Efallai yn bwysicaf oll, mae llwyddiant yn gofyn i ni ganolbwyntio'n ddi-baid ar ganlyniadau i ddinasyddion yn hytrach nag optimeiddio o fewn sefydliadau unigol. Nid yw'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn eu profi fel sefydliadau ar wahân, ffrydiau cyllido neu gyfrifoldebau statudol. Maen nhw'n eu profi fel rhan o un system.

Dyna pam mae cydweithredu yn bwysig. Dyna pam mae arweinyddiaeth system yn bwysig. A dyna pam mae cadw canlyniadau sy'n canolbwyntio ar bobl a chymuned wrth wraidd ein penderfyniadau mor bwysig.

Os gallwn gyflawni canlyniadau gwell, cryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd a gwella bywydau pobl ledled Cymru, yna credaf y gallwn ni ddweud yn hyderus ein bod yn llwyddo.

Mae hynny i gyd yn swnio'n ddigon rhesymol, rwy'n credu. Ond y cwestiwn go iawn yw: sut ydyn ni'n ei gyflawni? 

I mi, un o'r rhannau pwysicaf o'r ateb yw canolbwyntio ar atal. 

Nid yw hwn yn syniad newydd. Mae atal wedi cael ei hybu ledled Cymru ers blynyddoedd lawer trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a thrwy waith Syr Michael Marmot, y clywsoch amdano yn gynharach heddiw. Roedd hefyd yn thema y pwysleisiodd fy rhagflaenydd, Adrian Crompton, yn gyson trwy ei bwyslais ar atal a meddwl hirdymor.

Ond nid yw atal bellach yn uchelgais ddymunol yn unig. Mae'n dod yn fwyfwy angenrheidiol.

Y gwir yw na all gwasanaethau cyhoeddus barhau i ymateb i'r galw cynyddol am gyfnod amhenodol heb fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n creu'r galw hwnnw yn y lle cyntaf. Os ydym yn canolbwyntio ar reoli pwysau dim ond wrth iddyn nhw ddod i'r amlwg, rydym mewn perygl o gael ein dal mewn cylch o ymateb i broblemau yn hytrach na'u hatal.

Mae gweithredu'n gynharach yn aml yn arwain at ganlyniadau gwell a chostau is. Dylai atal felly fod yn rhan greiddiol o sut rydym yn gwneud penderfyniadau, dyrannu adnoddau, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Wrth gwrs, nid yw atal bob amser yn hawdd. Mae'r manteision yn aml yn cael eu gweld dros nifer o flynyddoedd, tra bod y costau yn cael eu gwario heddiw. Mewn cyfnod o bwysau ariannol dybryd, gall fod temtasiwn cryf i ganolbwyntio ar ofynion uniongyrchol ac arbedion tymor byr.

Ond os ydym o ddifrif am greu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, rhaid i ni gymryd golwg dros amser. Yn ogystal ag effaith uniongyrchol, rhaid i benderfyniadau buddsoddi ystyried costau a buddion hirdymor. Weithiau nid y defnydd mwyaf effeithiol o arian cyhoeddus yw'r opsiwn sy'n cyflawni'r canlyniad cyflymaf, ond yr un sy'n lleihau'r galw yn y dyfodol ac yn gwella canlyniadau dros amser.

Er enghraifft, efallai y bydd angen gwariant sylweddol ymlaen llaw ar fuddsoddi nawr mewn mesurau sy'n gwella gwydnwch hinsawdd, fel cynlluniau atal llifogydd neu addasu seilwaith cyhoeddus i ymdopi â thywydd eithafol, ond gall osgoi costau llawer mwy ac aflonyddwch yn y dyfodol ledled Cymru ac ar draws llawer o wasanaethau.

Mae atal hefyd yn gofyn i ni edrych y tu hwnt i symptomau a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol. Yn rhy aml, mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gadael i ddelio â chanlyniadau problemau sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd. Daw gwelliant gwirioneddol a pharhaol pan fyddwn ni’n mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol hynny: boed hynny'n dlodi, iechyd gwael, ynysu cymdeithasol, anghydraddoldebau neu rwystrau i gyfle.

Yn y pen draw, mae atal yn ymwneud â chreu'r amodau y gall Cymru ei hun - amgylcheddau naturiol ac adeiledig - a'i phobl, diwylliant a'i chymunedau ffynnu gyda'i gilydd. Mae'n ymwneud â meithrin gwydnwch, lleihau pwysau yn y dyfodol a gwella bywydau. Ac mewn oes o adnoddau cyfyngedig a galw cynyddol, credaf ei fod yn un o'r adnoddau mwyaf pwerus sydd gennym i helpu i sicrhau canlyniadau gwell i bobl Cymru. 

Fe wnes i gyffwrdd yn gynharach ar y ffaith nad yw'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn eu profi fel sefydliadau ar wahân. Maen nhw'n eu profi fel rhan o un system. 

Rwy'n siŵr eich bod eisoes wedi bod yn meddwl ac yn siarad am hynny.

Mewn sawl ffordd, mae gan yr arsylwi syml hwnnw oblygiadau dwys i'r ffordd yr ydym yn arwain gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. 

Nid yw'r heriau mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu ein cymunedau yn eistedd yn daclus o fewn cylch gwaith unrhyw un sefydliad. Mae tlodi, anghydraddoldebau iechyd, pwysau tai, prinder sgiliau, anweithgarwch economaidd, diogelwch cymunedol a gwydnwch amgylcheddol i gyd yn rhyng-gysylltiedig ac yn un heb ffiniau. Ni all unrhyw sefydliad, sector neu broffesiwn unigol fynd i'r afael â nhw ar ei ben ei hun. 

Dyna pam mae arweinyddiaeth system wedi dod mor bwysig. Ac rwy'n teimlo'n gadarnhaol am hynny yng Nghymru o ystyried ein graddfa a'r gwaith y mae sefydliadau fel CLlLC yn ei wneud i ddatblygu ymdeimlad o weithio gyda'n gilydd.  

Yn ei hanfod, mae arweinyddiaeth system yn ymwneud â chydnabod, er bod gan sefydliadau gyfrifoldebau gwahanol, maent hefyd yn rhannu pwrpas cyffredin. Edrych y tu hwnt i fuddiannau sefydliadol i ystyried beth fydd yn darparu'r canlyniadau gorau i bobl Cymru. 

Nid yw hynny bob amser yn hawdd. Mae cyrff cyhoeddus yn gweithredu o fewn gwahanol fframweithiau deddfwriaethol, trefniadau llywodraethu, modelau cyllido a strwythurau atebolrwydd. Mae arweinwyr yn gyfrifol iawn am berfformiad eu sefydliadau eu hunain. 

Ond yn gynyddol, mae llwyddiant yn dibynnu nid yn unig ar ba mor dda y mae sefydliadau unigol yn perfformio, ond ar ba mor effeithiol maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd. 

Mae arwyddion calonogol o hyn ledled Cymru. Mae trefniadau gweithio rhanbarthol, byrddau gwasanaethau cyhoeddus, bargeinion dinas, ac ystod eang o fentrau cydweithredol yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau'n cyd-fynd o amgylch blaenoriaethau ac uchelgeisiau ar y cyd. 

Mae hynny'n arbennig o wir pan fyddwn yn meddwl am atal. Yn aml, mae dulliau ataliol yn gofyn i sawl sefydliad weithio gyda'i gilydd dros gyfnod parhaus o amser. Gall y manteision gael eu gwireddu mewn un rhan o'r system tra bod y buddsoddiad yn cael ei wneud mewn rhan arall. Mae hynny'n gofyn i arweinwyr gymryd safbwynt ehangach a golwg tymor hwy. 

Mae hefyd yn gofyn am ymdeimlad cyffredin o atebolrwydd. 

Ein cyfrifoldeb ni, felly, yw creu gwasanaethau cyhoeddus sydd mor gydgysylltiedig â phosibl o safbwynt y dinesydd. 

I mi, nid yw arweinyddiaeth system effeithiol yn ymwneud â chreu haenau ychwanegol o lywodraethu neu fwy o strwythurau partneriaeth o fewn tirwedd sector cyhoeddus sydd eisoes yn gymhleth. Mae'n ymwneud â meithrin diwylliant o gydweithio, pwrpas a rennir a chyfrifoldeb ar y cyd. Mae'n ymwneud â dod â sefydliadau at ei gilydd o amgylch y canlyniadau sydd fwyaf pwysig, ac ymgorffori'r canlyniadau hynny yn nyluniad y system o'r cychwyn cyntaf. Ni ddylai atal a chydweithio fod yn feddyliau ôl-weithredol nac yn ychwanegiadau dewisol. Dylent lunio sut mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio, eu comisiynu, eu hariannu a'u darparu, gan greu'r amodau i gyrff cyhoeddus weithio gyda'i gilydd. 

Os ydym o ddifrif am wella bywydau, lleihau anghydraddoldebau a chreu gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yna nid yw arweinyddiaeth system yn ddewisol. Mae'n hanfodol. A bydd yn un o nodweddion diffiniol arweinyddiaeth lwyddiannus yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.

Mae hynny'n dod â mi at rôl Archwilio Cymru ac, yn wir, fy rôl i fel Archwilydd Cyffredinol. 

Os yw'r heriau sy'n ein hwynebu yn gynyddol gymhleth, rhyng-gysylltiedig a hirdymor eu natur, pa ran y gall archwilio ei chwarae wrth helpu Cymru i ymateb iddynt?

I mi, mae'r ateb yn dechrau gydag egwyddor syml. Rhaid i Archwilio Cymru barhau i fod yn annibynnol, yn wrthrychol ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r annibyniaeth honno yn sylfaenol i ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.  

Ond nid yw annibyniaeth yn golygu ymbellhau. 

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi disgrifio ein pwrpas trwy dri conglfaen: sicrhau, esbonio ac ysbrydoli.

Efallai mai rôl sicrwydd yw'r mwyaf cyfarwydd. Mae dinasyddion, aelodau etholedig a rhanddeiliaid yn iawn i ddisgwyl sicrwydd bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n briodol a bod cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau.

Ein rôl ni hefyd yw esbonio, gan helpu pobl i ddeall yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, y dewisiadau sy'n cael eu gwneud a goblygiadau'r dewisiadau hynny.

Ond credaf fod cyfle i roi hyd yn oed mwy o bwyslais ar y trydydd conglfaen presennol: ysbrydoli.

Rwyf wedi gofyn i mi fy hun ai 'ysbrydoli' yw'r gair cywir – ond o ystyried yr hyn rydw i eisoes wedi'i ddweud am yr heriau brawychus sy'n ein hwynebu; rwy'n credu ei fod.  

Nid yw Archwilio Cymru yma i nodi gwendidau neu nodi lle mae pethau wedi mynd o'i le yn unig. Rydym hefyd yma i helpu cyrff cyhoeddus i ddysgu oddi wrth ei gilydd a manteisio ar arfer da i gryfhau canlyniadau i ddinasyddion. A chan ein bod yn sefydliad sy'n bodoli mewn cyd-destun rhyngwladol, mae cyfle hefyd i ddysgu o'r maes ehangach hwnnw.  

Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau gweithio ar lunio strategaeth newydd ar gyfer Archwilio Cymru. 

Ni ellir mynd i'r afael â'r materion systemig rydw i wedi'u trafod heddiw trwy wneud mwy o'r un peth. Os ydym yn gofyn i'r system ehangach addasu, cydweithio'n wahanol a meddwl yn yr hirdymor, yna mae'n iawn ein bod yn gofyn yr un cwestiwn i ni ein hunain yn Archwilio Cymru.

Felly, bydd y flwyddyn gyntaf hon o fy nghyfnod fel Archwilydd Cyffredinol yn un bontio. Rwyf am i ni feddwl yn ofalus am yr effaith a gawn ni fel archwilydd sector cyhoeddus Cymru a sut y gallwn sicrhau cymaint â phosibl o'r effaith honno wrth barhau i fod wedi ein gwreiddio'n gadarn yn ein rôl annibynnol.

Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn sut y gallwn nodi materion systemig yn well, tynnu sylw at themâu sy'n ailadrodd ar draws sefydliadau, addasu i gynnig mewnwelediad i feysydd mwy newydd fel AI, adrodd cynaliadwyedd ac ati a chanolbwyntio ein gwaith ar y pynciau sydd fwyaf pwysicaf i ddyfodol Cymru.  

Felly, rwy'n dechrau gweithio i ddatblygu fframwaith cliriach ar gyfer deall a dangos effaith ein gwaith ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Rwyf hefyd yn credu y gallwn ni wneud mwy i ysbrydoli gwelliant. Ni ddylai ein hannibyniaeth ein rhwystro rhag rhannu dysgu, tynnu sylw at arfer da a thynnu ar ein profiad ledled Cymru a thu hwnt. Gyda safbwynt unigryw ar draws sector cyhoeddus y DU a chysylltiadau rhyngwladol cryf, rydym mewn sefyllfa dda i ddod â thystiolaeth, mewnwelediad a dysgu i'r bwrdd wrth i ni weithio gyda'n gilydd i fodloni'r heriau sydd o'n blaenau.

Yr her i ni yw troi'r persbectif hwnnw'n werth ymarferol. Sut allwn ni ddod â'n harbenigedd a'n rôl i'r darlun wrth i bethau newydd ddatblygu? Sut allwn ni dynnu sylw at argymhellion systemig yn gliriach a chanolbwyntio ein gwaith nad ydynt yn gyfrifon ar bynciau a fydd yn cyfrannu at welliant.  

Mae'r rhain yn gwestiynau yn hytrach na chasgliadau ar hyn o bryd, a byddaf yn ceisio barn rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraeth leol, wrth i'r gwaith hwn ddatblygu.

Yr hyn na fydd yn newid yw'r egwyddorion sy'n sail i'n gwaith: gwrthrychedd, tystiolaeth, her adeiladol ac annibyniaeth archwilydd. Ond rwy'n credu bod cyfle i ategu'r cryfderau hynny gyda hyd yn oed mwy o bwyslais ar ddysgu, gwella ac effaith.

Yn y pen draw, os gall Archwilio Cymru helpu cyrff cyhoeddus i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac ymateb yn fwy effeithiol i'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu, yna byddwn yn chwarae ein rhan wrth wneud cyfraniad ystyrlon at ganlyniadau gwell i bobl Cymru.

Wrth edrych ymlaen, mae gwasanaethau cyhoeddus a chyllid cyhoeddus yng Nghymru, ac yn wir y tu hwnt i Gymru, ar drobwynt.  

Bydd y dewisiadau a wnawn dros y blynyddoedd nesaf yn llunio gwydnwch, cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau cyhoeddus am flynyddoedd i ddod.

Mae llawer o'r trafodaethau sy'n digwydd yn y gynhadledd hon yn canolbwyntio'n briodol ar sut rydym yn parhau i symud i ddull mwy ataliol, hirdymor. Nid dewis polisi yn unig yw hynny. Mae'n dod yn fwy angenrheidiol yn economaidd a chymdeithasol. 

Mae datganoli pellach hefyd yn debygol o ddod â chyfrifoldebau newydd a chyfleoedd newydd. Eich cyfrifoldebau chi fel arweinwyr ar draws llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus fydd y rheini, a byddant hefyd yn llunio fy rôl i fel Archwilydd Cyffredinol. Rwyf am i'r newidiadau hynny fod yn llwyddiannus, yn effeithiol ac yn fuddiol i bobl Cymru yn y pen draw. 

Pan fyddaf yn meddwl am fy ngweledigaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae'n un syml. Ac un yr wyf yn gobeithio y byddwch chi'n ei rannu.  

Mae'n weledigaeth o wasanaethau cyhoeddus sy'n gweithio gyda'i gilydd yn ddi-dor, gan gydnabod bod llawer o'r heriau sy'n wynebu dinasyddion yn gofyn am atebion ar y cyd. 

Mae'n weledigaeth lle mae penderfyniadau yn fwy o rai ataliol ac yn y tymor hir, lle mae buddsoddiad yn cael ei arwain nid yn unig gan bwysau tymor byr ond gan y canlyniadau yr ydym am eu cyflawni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Mae'n weledigaeth lle mae dysgu yn cael ei rannu'n agored ar draws y sector cyhoeddus a sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd i wella canlyniadau i ddinasyddion.  

Mae'n weledigaeth o wasanaethau cyhoeddus sy'n cofleidio'r cyfleoedd a gyflwynir gan dechnoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial, gan barhau i fod yn wydn i'r risgiau y maen nhw’n eu cyflwyno ac yn canolbwyntio ar y bobl y maent yn bodoli i'w gwasanaethu. 

Yn fwy na dim, mae'n weledigaeth o wasanaethau cyhoeddus sy'n ennill ac yn cynnal ymddiriedaeth pobl Cymru trwy eu heffeithiolrwydd, eu tryloywder a'u hymrwymiad i welliant parhaus. 

Mae'r heriau sydd o'n blaenau yn sylweddol. Ond trwy gydol fy ngyrfa rwyf wedi gweld yr ymrwymiad, y proffesiynoldeb a'r ethos gwasanaeth cyhoeddus sy'n bodoli ledled Cymru. Mae hynny'n rhoi hyder i mi yn ein gallu ar y cyd i fodloni'r heriau hynny.

I gloi, fel y gwnes i gyffwrdd arno yn gynharach, adeiladwyd y Neuadd hon yn ystod un o gyfnodau anoddaf y ganrif ddiwethaf oherwydd bod pobl yn credu bod y dyfodol yn werth buddsoddi ynddo. Ein tasg ni nawr yw dangos yr un hyder yn nyfodol Cymru a'r un penderfyniad i adael gwasanaethau cyhoeddus cryfach i'r cenedlaethau sy'n ein dilyn.

Diolch yn fawr."