Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd yng Nghymru

Byddwch ymysg y cyntaf i ganfod canfyddiadau yr Adolygiad Gwaelodlin Dadgarboneiddio gan Archwilio Cymru.
Speakers
Ymunwch â ni am 10 y.b. ar Fai 16eg er mwyn bod ymysg y cyntaf i ganfod canfyddiadau yr Adolygiad Gwaelodlin Dadgarboneiddio gan Archwilio Cymru.
Mae adroddiadau diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn cyfleu darlun tywyll o’r presennol, gan rybuddio y gellid gweld canlyniadau dinistriol wrth edrych i’r dyfodol. Nawr yw’r amser i weithredu os am gyfyngu cynhesu byd eang i 1.5C.
Yn ôl yr IPCC, mae symud oddi wrth y model presennol o dreuliant a defnydd tanwydd ffosil yn hanfodol. O’r herwydd mae gan gyrff cyhoeddus rôl allweddol wrth leihau eu hallyriadau carbon eu hunain, ac arwain ymdrechion ehangach i ddadgarboneiddio yn eu cymunedau.
Mae nifer o gyrff cyhoeddus Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, ond sut maent yn paratoi mynd at i gyflawni cynlluniau lleihau carbon 2030 Llywodraeth Cymru?
Ydi’r wybodaeth a’r arweinyddiaeth angenrheidiol ar gael iddynt er mwyn cyflawni’r lleihad angenrheidiol mewn carbon o fewn yr amser sydd ar gael i wneud hynny?
Byddwch ymysg y cyntaf i glywed canfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol ar weithredu’r sector gyhoeddus wrth ddadgarboneiddio.
Yn ei gweminar ar Fai 16eg byddwn yn datgelu ein canfyddiadau cychwynnol, gan ofyn i’r rhai sy’n mynychu:
- Ydych chi’n adnabod ein canfyddiadau?
- Oes yna unrhyw beth pwysig ar goll?
- Beth sydd angen digwydd yng Nghymru er mwyn cyrraedd targedau 2030?