Mae’r ffordd y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yn y dyfodol yn newid. Bydd staff yn chwarae rhan allweddol yn hyn o beth, gan ddefnyddio eu gwybodaeth am wasanaethau a’u syniadau ynglŷn â sut i wella ac arloesi.
Roedd y gweminar hon yn rhan o National Ideas UK Week [Agorir mewn ffenest newydd] a chafodd ei gyflwyno ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Ideas UK [Agorir mewn ffenest newydd].
Roedd y gweminar yma yn canolbwyntio ar:
- Pam ei bod yn bwysig casglu syniadau gan eich staff?
- Pa ddulliau ydych chi’n eu defnyddio?
- Pa fuddion ydych chi’n eu cael?
- Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sy’n meddwl am gasglu syniadau gan staff?
At bwy roedd y gweminar wedi ei hanelu
Roedd y gweminar hon wedi ei hanelu at reolwyr a swyddogion yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, sy’n gyfrifol am y canlynol:
- unedau newid ac arloesi
- effeithlonrwydd ac ail-ddylunio gwasanaethau
- gwella perfformiad
- datblygiad sefydliadol, ac
- adnoddau dynol/datblygu staff
Roedd yn cynnwys trafodaeth rhwng:
- Stuart Laws, Uned Ddiwygio Amddiffyn – Rheoli Syniadau, y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Zufishan Yousaf – Rheolwr Gweithrediadau, Ideas UK
- Steff Griffiths – Cymuned Gwella Parhaus Cymru Gyfan, a
- Chris Bolton – Rheolwr Arfer Da, Swyddfa Archwilio Cymru
Ble a phryd
Dydd Mawrth 12 Mai 2015, 1100 - 1200