Webinar
Sgwrs a Paned - Scott Tandy

Rhywbeth Difyr gyda Rhywun Difyr 

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Rhan greiddiol o waith Cyfnewidfa Arfer Da Archwilio Cymru ydi dod â phobl at ei gilydd a hwyluso trawsbeilliad syniadau.

Er mwyn annog hynny ‘rydym wedi dechrau cyfres o sesiynau sydd yn ceisio hwyluso cysylltiadau rhwng pobl ddifyr, a rhannu rhywbeth difyr.

Bydd ein sesiwn gyntaf yn cyflwyno Scott Tandy o Gymdeithas Tai Newydd. Fel y dynamo tu ôl i GetFit Cymru a’r platfform digwyddiadau eCymru sydd wedi ei lansio yn ddiweddar, bydd Scott yn rhannu sut mae cydweithio ar y ddau brosiect wedi rhoi gwell gwasanaethau i denantiaid nifer o gymdeithasau tai yng Nghymru, ond hefyd wedi creu cysylltiadau a galluogi staff mewn gwahanol gymdeithasau gydweithio yn effeithiol.

 

Sut ydw i'n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch eich manylion ar y ffurflen gofrestru sydd ar ochr dde y dudalen yma os gwelwch yn dda. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, anfonwch e-bost i Arfer.Da@archwilio.cymru 

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 diwrnod cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle er mwyn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth atoch.

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events