Roedd y seminar yn anelu at fynd i'r afael â materion gweithlu cyffredin sy'n wynebu sefydliadau yn y sector cyhoeddus.
Gellir gwylio'r cyflwynwyr yn trafod eu cyfraniad [Agorir mewn ffenest newydd] i’r seminar.
Roedd y seminar wedi ei anelu at rolau o fewn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, yn arbennig:
- Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol;
- deiliaid Portffolio AD gweithredol/anweithredol;
- Cyfarwyddwyr sy'n delio â chwsmeriaid;
- Rheolwyr Newid;
- Arweinwyr Polisi ar gyfer y gweithlu;
- gweithwyr proffesiynol allweddol sy'n ymwneud â Datblygu Talent, Datblygu Gweithlu.
Amlinelliad o’r seminar
Roedd y seminar yn cynnwys dwy sesiwn:
Sesiwn 1: Roedd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg gan Viv Du Feu o effaith bresennol y cenedlaethau ac effeithiau gweithio ar draws nifer o genedlaethau, a'r goblygiadau i sefydliadau.
Sesiwn 2: Setiau dysgu gweithredoedd cynrychiolwyr ar y themâu isod:
- Goblygiadau a rheoli pan fo recriwtio allanol wedi ei atal dros dro;
- Beth i'w wneud pan mae'n bryd i ddiweddaru polisïau;
- Pan rydych am recriwtio rôl benodol; a
- Rôl mentora a hyfforddi.
Pryd a ble
Dydd Mawrth 26 Mawrth 2013
0900 – 1300
Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ