Shared Learning Seminar
Mynd i’r Afael â Thlodi yng Nghymru: ymateb i'r her (Caerdydd)

Mae tlodi yn amlddimensiwn, yn gymhleth, yn tyfu ac yn effeithio ar fwy o bobl yng Nghymru. 

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Cyn yr argyfwng costau byw presennol hyd yn oed, bu bron i un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi sy'n golygu eu bod yn cael llai na 60% o'r cyflog cyfartalog. Mae hynny tua 700,000 o'n cyd-ddinasyddion. Mae'r lefel honno o dlodi cymharol wedi aros yr un fath ers degawdau.  

Mae tlodi yn gallu golygu cael dim arian yn eich poced, eich plant yn mynd i'r ysgol yn newynog, neu i'r gwely heb ddigon o fwyd. Gall olygu peidio â gallu fforddio côt gaeaf na chynhesu'ch cartref, ac yn aml yn byw am flynyddoedd heb waith na gobaith, wedi’i eithrio rhag cyfleoedd a newid.  

Gall achosion tlodi hefyd fod yn strwythurol, yn deillio o ac yn cael eu dylanwadu gan y ffordd y mae cymdeithas a'r economi wedi'i fframio ac yn gweithio sy'n helpu i greu cylch sy'n ei gwneud hi'n anoddach i rai pobl ddarparu ar gyfer eu teuluoedd a'u cadw'n gaeth mewn stad o gyni. Mae'r strwythurau hyn yn gyrru anghyfartaledd o ran mynediad at drafnidiaeth, addysg, gofal plant, gofal iechyd, swyddi o ansawdd uchel, a thai fforddiadwy. 

Gall rhai o'r canlyniadau hyn – er enghraifft ynysu cymdeithasol, gwaharddiad, diffyg pŵer, lles corfforol ac emosiynol – ymestyn ac achosi tlodi i barhau, gan ei gwneud hi'n anodd, os nad yn amhosibl, i bobl ddianc rhag ei effaith. Ac yn aml gall y ffordd y mae polisïau a gwasanaethau o fewn y sector cyhoeddus a phreifat yn cael eu pennu a'u darparu wneud y sefyllfa'n llawer mwy heriol. 

Bydd y digwyddiad dysgu a rennir hwn yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth am sut y gall sefydliadau ymateb i'r heriau a achosir gan dlodi.   

Byddwn yn rhannu enghreifftiau o ddulliau sy'n cael eu cymryd gan sefydliadau yng Nghymru a ledled y DU.  

Ble a Phryd 

0930 - 1600 
Dydd Mawrth 25 Hydref 2022
Clwb Criced Glamorgan, Caerdydd, CF11 9XR

Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da 

I gofrestru, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd i gynrychiolwyr [agorir mewn ffenest newydd], gan ddweud wrthych sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses ymrestru. 

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno un i ddwy wythnos cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch. 

Am fwy o fanylion am y digwyddiad, anfonwch e-bost at arferda@archwilio.cymru 

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events