Shared Learning Webinar
Gweminar fyw: Strategaeth Dynamig

Fel rhan o'n wythnos ddysgu arlein 'Gwneud synnwyr o argyfwng: Dysgu o Bandemig COVID-19' byddwn yn cynnal gweminar byw ar Strategaeth Ddynamig.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

‘Gan amlaf, ni fydd yr hyn sy'n gweithio mewn cyfnodau arferol yn gweithio mewn argyfwng. Mae angen i ni feddwl a gweithredu'n wahanol'  Rheoli cymhlethdod (ac anhrefn) ar adegau o argyfwng – Canllaw maes i wneuthurwyr penderfyniadau 2021

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym i gyd wedi gweld llawer iawn o newid ac ansicrwydd. Bu'n rhaid i arweinwyr o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus wneud penderfyniadau cyflym ac anodd mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym.

Gyda lansiad diweddar 'Rheoli cymhlethdod (ac anhrefn) ar adegau o argyfwng - Canllaw maes i wneuthurwyr penderfyniadau', [agorir mewn ffenestr newydd] bydd yr Athro Dave Snowden, Crëwr Fframwaith Cynefin, yn ymuno â ni ac yn trafod y dull pedwar cam sy’n cael ei gynnig yn y llawlyfr sy’n ein galluogi i:

  • asesu'r math o argyfwng a chychwyn ymateb;
  • addasu i'r newid mewn cyflymder a dechrau adeiladu rhwydweithiau synhwyro i lywio penderfyniadau;
  • ail-bwrpasu strwythurau a dulliau gweithio sydd yno yn barod i greu arloesedd radical; a
  • goresgyn yr argyfwng, ffurfioli'r gwersi a ddysgwyd a chynyddu gwydnwch.

Bydd arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn ymuno â'r Athro Snowden i rannu eu profiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, a'r hyn y mae hyn i gyd yn ei olygu'n ymarferol.

Mae ein panel yn cynnwys:

  • Ian Bancroft, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Anne-Louise Clarke, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid, Archwilio Cymru
  • Todd Howlett, Cyfarwyddwr Gweithredol Meddygol, Nova Scotia Health
  • Auriol Miller, Prif Weithredwr, Sefydliad Materion Cymreig

Sut ydw i'n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch eich manylion ar y ffurflen gofrestru sydd ar ochr dde y dudalen yma os gwelwch yn dda. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, anfonwch e-bost i Arfer.Da@archwilio.cymru

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle er mwyn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth atoch.

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events