Trawsgrifiad Fideo [PDF 176KB Agorir mewn ffenest newydd]
Caiff ei gydnabod yn eang fod y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu newidiadau mawr drwy ad-drefnu gwasanaethau, comisiynu gwasanaethau a chynyddu gweithio mewn partneriaeth. Bydd yr opsiynau hyn yn ffurfio rhan o dirwedd gwasanaethau cyhoeddus newydd.
Bydd archwilio mewnol yn cael ei heffeithio gan y newidiadau hyn ac mae angen ymateb fel y gall barhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr iawn. Fe wnaeth y gweminar yma lansio ffrwd o waith gan y Swyddfa Archwilio Cymru, gan ganolbwyntio ar Archwilio Mewnol.
Gallwch weld fideos o'r gweminar [Agorir mewn ffenest newydd] a gwrando ar rannau o'r sesiwn holi ac ateb [Agorir mewn ffenest newydd].
Cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru, y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus Cyfrifon (CIPFA) ac Asiantaeth Archwilio Mewnol Glannau Mersi gweminar am 75 munud rhad ac am ddim, yn canolbwyntio ar:
- Sgiliau a phrofiadau;
- Opsiynau i wella gwasanaethau cyhoeddus a pham;
- Sut allai elfennau allanol eraill effeithio / gyfrannu tuag at ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol?
- Sut mae Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn mynd i sicrhau'r effaith mwyaf posib gyda llai o adnoddau?
- A yw'r cydbwysedd rhwng Archwiliad Mewnol ariannol a rheoli gwerth am arian / llywodraethu / risg / prosiect yn gywir ar hyn o bryd? A ddylai newid?
Cafodd y gweminar ei anelu at Swyddogion, Aelodau Etholedig, Cadeiryddion a swyddogion anweithredol sy'n cynnwys y rolau Cyllid, Archwilio Mewnol a Thrysorydd o fewn:
- Llywodraeth Leol (gan gynnwys Cadeiryddion Pwyllgorau Craffu);
- Cyrff Iechyd;
- Awdurdodau Heddlu;
- Gwasanaethau Tân ac Achub;
- Cymdeithasau Tai;
- Addysg Bellach ac Uwch; a
- Llywodraeth Cymru a’r cyrff a noddir ganddi.
Pryd
10.00 - 11.15
Dydd Iau 3 Gorffennaf 2014