Roedd gan wahanol sefydliadau sy’n gysylltiedig â thema’r seminar, gan gynnwys Hafal, Mind Cymru a Galw Iechyd Cymru, stondinau yn y digwyddiad yn darparu gwybodaeth a rhannu arfer da.
Roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Awdurdodau’r Heddlu, Gwasanaethau Tân ac Achub, Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru yn bresennol.
Y siaradwr gwadd oedd Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru, a chafwyd cyflwyniadau gan ymarferwyr ym maes Iechyd Galwedigaethol, y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gofal Iechyd.
Amlinelliad o’r seminar
Roedd y seminar yn cynnwys pum sesiwn arddangos:
-
Y Gweithle Ystyriol: Datblygu Diwylliant sy’n Creu Iechyd Meddwl Cadarnhaol
Moira Morgan, Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd/ RhNgCC -
Gwella Presenoldeb yn y Sector Cyhoeddus
Huw Morgans, Heddlu Dyfed Powys -
Rheoli Straen yn y Gweithle
Sally Isaacs, Eversheds -
Rhaglen Cymorth i Gyflogeion Worksure
Claire Vaughan, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf -
Iechyd Galwedigaethol
Dr Massoud Mansouri, InSync Corporate Healthcare
Pryd a ble
Dydd Iau 6 Mawrth 2012,
0900 - 1300,
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, Pontyclun CF72 8LX.
a
Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ