Dyfodol Diamod 2021

Chwilio am gipolwg ar sut i lywio'r newidiadau a'r heriau sy'n digwydd yn y sector cyhoeddus?
Mae'r digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig
Chwilio am ddulliau newydd o'ch helpu i addasu mewn cyfnod o argyfwng?
Mae ein cynhadledd Cyllid ar gyfer y Dyfodol 2021 yn ôl ac yma i roi'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lywio gyrfa lwyddiannus.
Byddwch yn mynychu prif areithiau a sesiynau llawn ar ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i chi - arweinwyr cyllid yfory. Dysgwch am rai o'r materion allweddol y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu, a sut mae gweithwyr cyllid proffesiynol wedi addasu.
A oes gennych gwestiynau neu bryderon am waith yn y sector cyhoeddus yn yr hinsawdd sydd ohoni? Gofynnwch eich cwestiynau i'n siaradwyr a'u hateb yn y fan a'r lle.
Daw'r gynhadledd i chi gan y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid; partneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru. Roeddem yn gobeithio gallu cynnal y gynhadledd hon wyneb yn wyneb eleni ond ar ôl llawer o ystyriaeth, rydym wedi penderfynu symud y digwyddiad ar-lein.
Nodwch, bydd y digwyddiad yn cael ei recordio a'i storio ar YouTube ar gyfer chwarae yn y dyfodol.
Sut wyf i'n cofrestru fy niddordeb?
Llenwch eich manylion ar y ffurflen archebu i'r dde o'r dudalen hon. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer digwyddiad yr ydym wedi'i drefnu, rydym yn casglu gwybodaeth benodol amdanoch fel cynrychiolydd, hwylusydd neu gyfrannwr. Gall digwyddiadau gynnwys cynadleddau, ymgysylltu, neu gyfarfodydd a digwyddiadau eraill. I gael gwybod mwy, darllenwch ein Hysbysiad Prosesu Teg Digwyddiadau [agorir mewn ffenest newydd].
Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu dosbarthu 1-2 ddiwrnod cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch.
Speakers

Bu gan Alison gyrfa yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ers 40 mlynedd. Dechreuodd fel un o Hyfforddeion Cyllid cyntaf y GIG ar ddechrau'r 1980au a chymhwysodd fel Cyfrifydd CIPFA. Mae ganddi hefyd gymhwyster CIPFA mewn Llywodraethu Corfforaethol. Bu Alison yn gweithio yn GIG Cymru am dros 32 mlynedd; 11 mlynedd o'r rheini ar lefel Bwrdd fel Cyfarwyddwr Cyllid ac yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Llywodraethu. Yn ystod ei gyrfa, manteisiodd hefyd ar gyfle secondiad am rai blynyddoedd i Lywodraeth Cymru ac felly mae ganddi brofiad eang o ddatblygu polisi, cynllunio strategol a gweithredol, rheoli perfformiad a phob agwedd ar reolaeth ariannol a llywodraethu corfforaethol.
Drwy gydol ei gyrfa, mae Alison bob amser wedi bod yn hyrwyddwr tegwch gan ymdrin â phobl yn gyfartal heb wahaniaethu na dangos ffafriaeth yn ogystal ag ategu safonau ymddygiad gonest a chyfartal. Yn 2014, penodwyd Alison yn Aelod Annibynnol ar Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Swyddfa Archwilio Cymru ac yn 2017 daeth yn Aelod Anweithredol ar y Bwrdd.
Y tu allan i'r gwaith, mae Alison yn weithgar yn ei theatr leol ar y llwyfan ac oddi arno ac mae'n golffiwr brwdfrydig. Mae hi hefyd yn dwli ar deithio ac mae wrth ei bodd yn darganfod lleoedd oddi ar y llwybr twristiaeth.
Ganed a magwyd Adrian Crompton yng Nghoedwig Dean yn Swydd Gaerloyw, ac mae’n dal i fyw yno hyd heddiw gyda'i wraig a'i ddau o blant. Ar ôl astudio Economeg ym Mhrifysgol Caerfaddon, bu'n byw ac yn gweithio ym Mharis cyn dechrau ar yrfa mewn gwasanaeth seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin. Ar ôl cyfnod byr fel ystadegydd i'r llywodraeth, symudodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a oedd newydd ei sefydlu (sef Senedd Cymru bellach). Ymgymerodd Adrian â rolau amrywiol yn y Senedd cyn dod yn Gyfarwyddwr Busnes y Cynulliad ac uwch gynghorydd gweithdrefnol i'r Llywydd yn 2007.
Rhwng 2014 a 2018, gweithiodd Adrian fel Cydymaith ar gyfer Global Partners Governance, cwmni pwrpas cymdeithasol â’r nod o gryfhau democratiaeth seneddol a sefydliadau gwleidyddol mewn gwledydd ledled y byd. Roedd ei arbenigedd a'i gefnogaeth ymarferol i uwch wleidyddion a gweision sifil wrth wraidd prosiectau sy’n meithrin diwygio democrataidd yn Sudan, Irac, yr Aifft a Gwlad Iorddonen.
Ym mis Mawrth 2018, cafodd Adrian ei argymell gan y Senedd i'w benodi'n Archwilydd Cyffredinol Cymru ac fe'i penodwyd yn ffurfiol i'r swydd gan EM Y Frenhines o 21 Gorffennaf 2018.
Fel Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phrif Weithredwr Archwilio Cymru, mae'n arwain sefydliad o tua 270 o staff sy'n archwilio gwariant a pherfformiad y rhan fwyaf o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Penodwyd Dr Andrew Goodall i swydd Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021 ac mae'n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wrth gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog ac mae'n gweithredu fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru. Ynghynt, roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, swydd yr oedd wedi'i dal ers mis Mehefin 2014.
Roedd Dr Goodall yn Brif Weithredwr y GIG yng Nghymru am 16 mlynedd. Mae’i swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd a gynhaliwyd o ddechrau'r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl i'r GIG ad-drefnu model integredig Byrddau Iechyd.
Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y GIG, mae Dr Goodall wedi dal swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau'r GIG ledled De Cymru yn ogystal â swyddi cenedlaethol. Mae ganddo feysydd diddordeb penodol mewn gwella diogelwch cleifion, ansawdd a phrofiad cleifion; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws y Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen drwy wella a moderneiddio gwasanaethau.
Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaethau Iechyd o Ysgol Fusnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus.

Gaynor yw Pennaeth Tai a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd gyda Chyngor Sir Penfro. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sy'n gyfrifol am ddigartrefedd, swyddogaeth rheoli landlordiaid ar gyfer tai cyngor, addasiadau tai, safonau tai ar gyfer pob deiliadaeth, strategaeth tai fforddiadwy a datblygiadau adeiladu. Mae hi hefyd yn rheoli'r gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd sy'n cynnwys swyddogaethau rheoleiddio safonau a diogelwch bwyd, afiechyd trosglwyddadwy, iechyd a diogelwch, iechyd a lles anifeiliaid, safonau masnachu, trwyddedu, llygredd ac iechyd y cyhoedd.
Cyn ymuno â Sir Benfro yn 2020, bu Gaynor yn gweithio i Gyngor Sir Ceredigion am 19 mlynedd mewn rolau amrywiol gan gynnwys partneriaethau tai, diogelu’r cyhoedd a lles cymunedol.
Dechreuodd Gaynor ei gyrfa mewn llywodraeth leol ym 1991 yng nghymoedd De Cymru fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ac ers ennill gradd yn y proffesiwn hwn, mae hefyd wedi cwblhau cymwysterau pellach mewn rheoli risg, iechyd a diogelwch, arweinyddiaeth a rheolaeth yn ogystal â gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd.
Mae Gaynor yn byw mewn rhan hyfryd o Orllewin Cymru ac yn mwynhau treulio’r amser hamdden sydd ganddi yn cerdded ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro.

Mae Andy yn Gyfrifydd Siartredig a raddiodd o’r Brifysgol gan ymuno â Deloitte Haskins & Sells yng Nghaerdydd fel archwilydd hyfforddedig. Ar ôl nifer o flynyddoedd yn ymarfer yn y sector fasnachol, cynorthwyodd Andy i sefydlu sector cyhoeddus Coopers & Lybrand yng Nghymru gan ddarparu gwasanaethau archwilio allanol a mewnol i’r GIG a Llywodraeth Leol. Ar ôl secondiadau i adran Gwasanaethau Cymdeithasol a’r adran sicrwydd ansawdd yn y Comisiwn Archwilio, symudodd i PricewaterhouseCoopers ym Mryste lle y bu’n uwch reolwr yn darparu gwasanaethau cynghori ac ymgynghori yn y sector cyhoeddus yn Ne Orllewin Lloegr.
Ymunodd Andy â GIG Cymru yn 2007 fel Cyfarwyddwr Cyllid Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yng Nghymru cyn dod yn Gyfarwyddwr Arweiniol yn 2010. Yn ystod y cyfnod hwn cymerodd ran yn y prosiect i sefydlu sefydliad cydwasanaethau yn GIG Cymru ac ym mis Ebrill 2011, ymunodd Andy â’ Bartneriaeth Cydwasanaethau fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. Mae Andy wedi cadeirio grŵp datblygu staff cyllid Academi Cyllid y GIG ers nifer o flynyddoedd ac yn fwy diweddar mae wedi cymryd cyfrifoldeb am y rhaglen waith Llywodraethu. Yn ystod y pandemig, gweithiodd Andy yn agos gyda Chydweithwyr Caffael PCGC i sicrhau a dosbarthu cyfarpar diogelu personol ar gyfer GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol.

Penodwyd Gawain i swydd Cyfarwyddwr Cyllid ym mis Hydref 2015. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yr Ysgrifennydd Parhaol ac uwch gydweithwyr, i sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru yn cael ei reoli a'i adrodd yn iawn.
Mae Gawain yn gweithio gyda'r Pennaeth Archwilio Mewnol i ddarparu cyngor i'r holl Swyddogion Cyfrifyddu ar faterion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian mewn perthynas â gweithgareddau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cadw at y safonau uchaf o lywodraethu a rheoli risg. Mae Gawain yn Bennaeth Proffesiwn staff Cyllid a Chyfrifyddu yn Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a rennir a'r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau o fewn Llywodraeth Cymru.
Mae Gawain yn aelod o'r Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol; sy'n cynghori Llywodraeth y DU ar gymhwyso polisi cyfrifyddu.
Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, roedd Gawain gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn lle bu'n gweithio mewn amrywiaeth o feysydd.

Cafodd Rebecca Evans ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ym mis Mai 2011 i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Gŵyr.
Enillodd Rebecca radd mewn Hanes gan Brifysgol Leeds, a gradd MPhil mewn Astudiaethau Hanesyddol gan Goleg Sidney Sussex, Prifysgol Caergrawnt. Cyn iddi gael ei hethol, bu Rebecca yn gweithio yn y trydydd sector.
Yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae Rebecca wedi gwasanaethu ar Bwyllgor yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 daeth yn Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018 ymunodd â’r Cabinet fel Gweinidog Cyllid a Threfnydd. Penodwyd Rebecca yn Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Mai 2021.

Mae Mark Jeffs yn Rheolwr yn Nhîm Astudiaethau Cenedlaethol Archwilio Cymru. Mae wedi arwain ystod eang o astudiaethau cenedlaethol, gan gynnwys pedwar adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, adolygiadau o bwysau ariannol a pherfformiad yn y GIG, a pharatoadau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer Brexit heb gytundeb. Yn ddiweddar, mae wedi arwain ar astudiaethau yn ymwneud â phandemig COVID-19, gan gynnwys cyflenwi a chaffael cyfarpar diogelu personol a chyfleoedd i ailosod ac ailgychwyn system gofal wedi’i gynllunio i'r GIG.
Ar hyn o bryd mae Mark yn gyfrifol am astudiaethau sy’n edrych ar Raglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru, Asesiadau Effaith Cydraddoldeb y sector cyhoeddus a chynllunio’r gweithlu yn Llywodraeth Cymru. Mae gan Mark ddiddordeb mawr mewn modelau gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig meddwl systemau a theori cymhlethdod. Mae'n aelod o Fforwm Polisi Cyhoeddus a Diwygio Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).
Cyn ymuno â rhagflaenydd Archwilio Cymru yn 2004, bu Mark yn gweithio i Gyngor Defnyddwyr Cymru, ac roedd yn gyfrifol am waith yn edrych ar dlodi, allgau cymdeithasol ac arwahanrwydd gwledig. Mae gan Mark radd yn y gyfraith, gradd Meistr mewn anthropoleg gymdeithasol a diploma ôl-raddedig mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.

Ymunodd Alison ag ICAEW yn 2020 a hi yw Cyfarwyddwr y tîm Sector Cyhoeddus, sy'n ategu aelodau sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus a chydag ef, i gyflawni blaenoriaethau cyhoeddus a chyllid cyhoeddus cynaliadwy. Mae ICAEW yn ymgysylltu â llunwyr polisi, gweision cyhoeddus ac eraill i hyrwyddo'r angen am reolaeth ariannol, archwilio a sicrwydd, adrodd ariannol a llywodraethu a moeseg effeithiol ar draws y sector cyhoeddus i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n ddoeth.
Ar ôl cwblhau gradd yn y gyfraith a chymhwyso gyda chwmni cyfrifyddiaeth canolig ei faint, bu'n gweithio'n ymarferol am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â CThEM ym 1994. Treuliodd 25 mlynedd yno lle roedd ganddi swydd Cyfrifydd Ymgynghorol y Comisiynwyr.
Cyfarwyddwr Treth yn ICAEW yw Alison hefyd.

Ymunodd Bridget ag ACCA ym mis Medi 2019; mae'n arwain ar y sector cyhoeddus yn y DU ac yn ddiweddar dechreuodd swydd newydd fel rheolwr eiriolaeth aelodau lle mae'n gyfrifol am nodi a datblygu eiriolaeth aelodau ac aelodau'r dyfodol i ategu blaenoriaethau strategol ar gyfer ACCA a'r farchnad ehangach.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad datblygu busnes mae Bridget wedi gweithio gyda sefydliadau a'u pobl, gan ragweld anghenion busnes yn y dyfodol a darparu atebion wedi'u teilwra i gyflawni nodau unigol a chorfforaethol. Mae gan Bridget brofiad o’r sectorau preifat ac ariannol a’r sector nid-er-elw.
Yn ei hamser hamdden mae'n Gadeirydd yr elusen genedlaethol Attend; mae Attend yn ategu ac yn ehangu'r rhan y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae wrth greu cymunedau iach.

Mae Lloyd wedi bod yn gweithio yn ACCA ers mis Mai 2016. ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) yw'r corff byd-eang ar gyfer cyfrifwyr proffesiynol. Mae swydd Lloyd yn cynnwys gweithio gyda 3,500 o aelodau ACCA a 2,500 o fyfyrwyr ledled Cymru, gyda chyflogwyr ar draws sectorau gan gynnwys gwasanaethau ariannol, y sector cyhoeddus, BBaChau ac ymarfer, a chyda rhanddeiliaid a phartneriaid eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, ysgolion, Prifysgolion a Cholegau. Mae ACCA yn cefnogi 233,000 o aelodau a 536,000 o fyfyrwyr mewn 178 o wledydd, gan eu helpu i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus mewn cyfrifyddu a busnes, gyda'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr.
Cyn ymuno ag ACCA, roedd Lloyd yn gweithio yn y sector Prifysgol am dros 20 mlynedd mewn amrywiaeth o swyddi, ymysg y rhain oedd Pennaeth Partneriaethau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae swydd Harry yn CIMA yn golygu ei fod yn gweithio gyda chyflogwyr yn y DU sy'n recriwtio, ategu a datblygu aelodau a myfyrwyr CIMA. Mae'n ategu eu myfyrwyr CIMA drwy gydol eu hastudiaethau i ddod yn aelodau o CIMA ac mae'n ategu aelodau CIMA i ddiweddaru eu datblygiad proffesiynol er mwyn iddynt ymarfer yn llwyddiannus fel cyfrifwyr ar gyfer y dyfodol.
Mae Harry hefyd yn ategu cyflogwyr yn y DU i nodi a helpu i ddarparu unrhyw ofynion hyfforddi staff i gynorthwyo gyda datblygu staff tra'n cynnal y safonau moesegol a phroffesiynol uchaf.
Mae dyfodol cyllid a'r ffordd y mae swydd y gweithiwr cyllid proffesiynol wedi newid yn golygu bod mwy o alw ar ei gyfer gan gyflogwyr.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Harry wedi ategu CIMA gyda'r GIG. Mae wedi gweld gweithio gyda'r GIG yn bleser gan fod gan wahanol feysydd o'r GIG ofynion gwahanol ac mae'n mwynhau'r her o geisio dod â'r gwahanol feysydd at ei gilydd tra hefyd yn helpu'r GIG i ddiwallu eu hanghenion datblygu.

Ar ôl cyfnod o bum mlynedd ym myd cyfrifeg, bu Christine yn gweithio am ugain mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil. Roedd ei rolau niferus yn cynnwys arbenigwr diogelwch, rheolwr hyfforddi, rheolwr staff cymorth a rheolwr budd-daliadau, ymhlith eraill. Yn y cyfnod hwn, a hithau’n gweithio'n llawn amser, enillodd BSc(Anrh) mewn Gwyddor Gymdeithasol gyda Gwleidyddiaeth ac MSc mewn Rheoli Diogelwch.
Ailhyfforddodd Christine i fod yn gwnselydd, gan arbenigo mewn ymddygiad caethiwus, yn benodol rheoli pwysau. Bu Christine yn rhedeg masnachfraint gwnsela am un mlynedd ar ddeg, gan symud ei busnes o Fryste i Gaerdydd a'r Barri. Yn ystod yr amser hwn, parhaodd â'i chariad at ddysgu trwy gwblhau MA mewn Cwnsela (Ymddygiadol Gwybyddol).
Yn dilyn y penderfyniad i gau’r busnes, roedd Christine yn bwriadu lled-ymddeol, gan redeg practis cwnsela preifat bach. Fodd bynnag, gyda'r awch i ddysgu yn dal yn gryf, cwblhaodd Ddiploma PG mewn Goruchwyliaeth Ymgynghorol. Fe wnaeth un o'i lleoliadau goruchwyliaeth ofyn iddi fod yn Brif Gwnselydd mewn prosiect cwnsela newydd, Breathe.
Mae Christine wedi tyfu prosiect cwnsela Platfform, Breathe, o’i dîm bach gwreiddiol o saith cwnselydd i un o drigain o staff, yn cynnwys cwnselwyr, cwnselwyr arweiniol a staff gweinyddol; mae hi bellach yn Bennaeth Breathe. Gwnaethpwyd hyn dros gyfnod o dair blynedd a hanner.
Mae Breathe yn gweithio gyda llawer o unigolion a sefydliadau i ddarparu gwasanaeth cwnsela arobryn. Mae'r rhain yn cynnwys prifysgolion yng Nghaerdydd ac Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac elusennau lleol. Mae Breathe hefyd yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig i ddarparu cwnsela trwy raglenni cymorth gweithwyr.
Yn ei hamser hamdden, mae Christine yn hoffi treulio amser gyda'i theulu mawr, mynd â’i chi am dro, mynd i wersylla, meithrin planhigion tŷ, bomio edau o bryd i'w gilydd, a mwynhau cwmni ei gŵr hir dioddefus Mike.

Andy Rhodes QPM (Medal Heddlu’r Frenhines) yw cyn Brif Gwnstabl Heddlu Swydd Gaerhirfryn ac, ynghyd â Dr Ian Hesketh sefydlodd Wasanaeth Lles Cenedlaethol yr Heddlu (NPWS), Oscar Kilo, yn 2015. Mae Oscar Kilo bellach yn wasanaeth a ariennir gan y llywodraeth sy'n ategu dros 200,000 o bersonél yr heddlu ac mae Andy wedi'i benodi'n Gyfarwyddwr y Gwasanaeth yn ddiweddar. Roedd Andy yn Gomander Arfau Tanio CT (Gwrth-Derfysgaeth) ac mae’n aelod o'r grŵp INVICTM rhyngwladol sy'n arwain ar gymorth lles gweithluoedd. Ef yw cynullydd grŵp diddordeb arbennig byd-eang ar arfer sy'n seiliedig ar drawma o dan GLEPHA.