Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Cynhaliwyd y prosiect hwn i nodi lefel y sicrwydd archwilio a/neu le y gallai fod angen rhagor o waith archwilio yn y dyfodol mewn cysylltiad â risgiau i'r Cyngor, gan roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau.
Roedd y prosiect hwn hefyd yn gymorth i ni allu asesu i ba raddau y mae’r Cyngor yn cymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth gymryd camau i gyflawni ei amcanion llesiant.
Mae cyllid ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi helpu i wella sefyllfa ariannol y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae angen i’r Cyngor lunio cynllun cynaliadwy i fynd i’r afael â’r pwysau ariannol sylweddol sy’n dod i’r amlwg.