Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Taliadau anghyfreithlon a methiannau llywodraethu
Paratowyd yr adroddiad hwn er budd y cyhoedd yn unol ag Adran 22 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Canfu ein hadroddiad er budd y cyhoedd fod taliadau anghyfreithlon wedi'u gwneud a methiannau a diffygion llywodraethu difrifol yn y Cyngor.
Roedd y methiannau hyn yn cynnwys peidio â chraffu'n briodol ar daliadau i'w gyn Glerc a methu â sicrhau bod ganddynt drefniadau priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth brynu nwyddau a gwasanaethau.
Mae gwersi i'w dysgu gan bob cyngor cymuned yng Nghymru ar bwysigrwydd cael rheolaethau mewnol effeithiol a llywodraethu da ar waith i ddiogelu'r pwrs cyhoeddus.