Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Yr hyn y gwnaethom fwrw golwg arno

    Fe wnaethom fwrw golwg ar gamau gweithredu Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (yr Awdurdod) i sicrhau gwelliant parhaus ers yr ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024. 

    Rydym wedi canolbwyntio ar ei gamau gweithredu i weithredu ar y Cylch Gorchwyl a bennwyd ar gyfer y comisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd hyn yn cynnwys gweithredu ar adroddiadau a oedd yn ystyried ei ddiwylliant, gweithrediadau, a threfniadau i sicrhau gwerth am arian. Wrth wneud hyn, fe wnaethom fwrw golwg ar yr amcanion gwella y mae’r Awdurdod wedi’u pennu, fel sy’n ofynnol gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur). 

    Fe wnaethom hefyd fwrw golwg ar ymateb yr Awdurdod i arolygiad gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025.

    Pam fod hyn yn bwysig 

    Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub (ATAau) rôl hollbwysig i gadw cymunedau’n ddiogel. I wneud hyn, rhaid iddynt sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth sy’n gwella’n barhaus i aros gyfuwch ag arfer esblygol a gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu’n diwallu anghenion newidiol eu cymunedau. Mae hi hefyd yn bwysig bod gwerthoedd ac ymddygiadau’r rhai sy’n darparu gwasanaethau tân ac achub yn adlewyrchu disgwyliadau’r cyhoedd. 

    Fe gyhoeddodd yr Awdurdod Adolygiad Diwylliant Annibynnol ym mis Ionawr 2024 a ddangosodd nad oedd wastad yn cwrdd â’r disgwyliadau hyn. Roedd hyn ar ôl adroddiadau eraill gan Brif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub Cymru ac Archwilio Cymru a oedd hefyd wedi canfod meysydd i’r Awdurdod wella arnynt.

    Fe ymyrrodd Llywodraeth Cymru yn yr Awdurdod ym mis Chwefror 2024. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd nad oedd hi’n ‘hyderus o allu'r gwasanaeth ynddo'i hun i oruchwylio ei adferiad... Fel gyda'r rheolwyr, ni all aelodau'r Awdurdod fod yr un rhai sy'n achosi problem ac yn ei datrys hefyd’.  Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddisodli’r cynghorwyr a oedd yn aelodau o’r Awdurdod â phedwar comisiynydd. 

    Mae gweithredu ar ganfyddiadau’r Adolygiad Diwylliant Annibynnol ac adroddiadau eraill gan gyrff adolygu allanol yn allweddol i allu’r Awdurdod i ddangos ei fod yn gweithio i sicrhau gwelliant parhaus er budd ei gymunedau. 

    Yr hyn yr ydym wedi’i ganfod

    Mae’r Awdurdod wedi gwneud cynnydd o ran ymdrin â’i feysydd ar gyfer gwella. Fodd bynnag, nid yw hi’n glir eto sut y bydd ei weithgarwch gwella’n cael ei ariannu na pha wahaniaeth y mae’n ei wneud i gymunedau lleol. 

    Yr hyn yr ydym yn ei argymell

    Rydym yn gwneud tri argymhelliad i helpu’r Awdurdod i wella. Mae a wnelo’r rhain â:

    • symleiddio ei gyfeiriad strategol a nodi sut y bydd yn dwyn budd i’w gymunedau;
    • costio ei gamau gwella ac adnabod sut y byddant yn cael eu hariannu; a hefyd
    • cryfhau sut y mae’n asesu cynnydd tuag at ei nodau a pha un a yw’n dwyn gwerth am arian.
CAPTCHA