Ar ôl cwblhau adolygiad yn ddiweddar o gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yng Ngogledd Cymru, mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd faterion o bwys cenedlaethol ehangach ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
-
Mae costau comisiynu cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn rhedeg i rai cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn ac mae’n effeithio ar filoedd lawer o bobl.
Mae comisiynu cartrefi gofal yn ganlyniad asesu anghenion y boblogaeth, cynllunio, siapio, caffael ac weithiau darparu gwasanaethau cartrefi gofal. Dylid ymgymryd â’r gwaith gyda’r nod o sicrhau digon o leoedd mewn cartrefi gofal o safon uchel i ateb anghenion y presennol a’r dyfodol. Dylai ganolbwyntio ar werth i’r trethdalwr a chanlyniadau i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Yr hyn a ganfuom
Drwy ein gwaith rhanbarthol, a’n dadansoddiad Cymru gyfan ar ben hynny, canfuom saith o broblemau allweddol. Mae rhai o’r problemau hyn yn bod ers amser maith ac yn cynnwys trefniadau cyllido sy’n gymhleth ac yn achosi rhaniadau ymhlith partneriaid, a system sy’n anodd gweithio drwyddi.
Rydym wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru i ystyried ein canfyddiadau er mwyn ei sicrhau ei hun bod diwygiadau i’r polisi yn mynd yn ddigon pell i ymdrin ag achosion sylfaenol y problemau, gyda’r nod o osod ansawdd a chanlyniadau wrth galon y broses gomisiynu.
Cyhoeddi cysylltiedig
Mae’r trefniadau presennol ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yn methu â mynd i’r afael â rhai problemau sy’n bod ers amser maith
Gweld mwy