Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau ar gyfer Cymru o ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol. Mae’n cwmpasu deilliannau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2026.
Ymarfer paru data ledled y DU gyfan yw’r Fenter Twyll Genedlaethol (NFI). Awdurdod Twyll Sector Cyhoeddus Llywodraeth y DU sy’n arwain y Fenter Twyll Genedlaethol ar lefel y DU ac yn Lloegr, ond fe’i cyflawnir yng Nghymru dan bwerau paru data’r Archwilydd Cyffredinol.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau ar gyfer Cymru o ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol. Mae’n cwmpasu deilliannau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2026. Mae hyn yn cynnwys deilliannau yr adroddwyd arnynt yn hwyr o’r ymarfer blaenorol. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu ar dystiolaeth o’n hymgysylltiad â’r 50 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru a fu’n rhan o’r ymarfer.
Mae gwneud y gorau o bob punt o wariant cyhoeddus yn hanfodol. Er bod llawer o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario gan gyrff cyhoeddus Cymru’n cael ei reoli’n dda, mae gwastraff, gwallau a thwyll y gellir eu hatal a’u canfod yn dal i fodoli.
Mae ymarferion megis y Fenter Twyll Genedlaethol – dim ond un ffordd y gall cyrff ddefnyddio dadansoddeg data – yn rhan bwysig o’r dirwedd wrth-dwyll. Ac os yw’r rhai sydd â’u bryd ar gyflawni twyll yn synhwyro diffyg gwyliadwriaeth, gallai’r risgiau gynyddu. Ond dim ond dangosyddyw pariad data, felly mae angen gwaith dilynol cyn bod cyrff yn dwyn unrhyw gasgliadau.
Y tu hwnt i unrhyw arbedion ariannol, gall canlyniadau’r Fenter Twyll Genedlaethol ddarparu sicrwydd ynghylch systemau rheolaeth fewnol cyrff. Gallant hefyd amlygu meysydd ar gyfer gwella.
Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn dal i gynorthwyo cyrff yng Nghymru i atal a chanfod twyll, cryfhau rheolaethau mewnol, a gwella ansawdd data. Ers iddi ddechrau ym 1996, mae’r Fenter Twyll Genedlaethol wedi adrodd ar ddeilliannau ar gyfer Cymru sy’n gyfanswm o £65.2 miliwn. Ystyr deilliannau yw’r gwerth ariannol a roddir i achosion o dwyll, gordaliad neu wall a adnabuwyd.
Mae’r ymarfer diweddaraf, Menter Twyll Genedlaethol 2024-25, yn adrodd ar ddeilliannau ar gyfer Cymru sy’n werth £8.7 miliwn. Mae hyn £1.6 miliwn yn uwch na’r ymarfer blaenorol, gyda nifer yr achosion o dwyll, gordaliadau a gwallau a adnabuwyd yn cynyddu 26%. Dywedodd cyrff eu bod wedi profiamryw fanteision ehangach. Mae data a gyflwynwyd gan gyrff yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â £2.1 miliwn o’r deilliannau yr adroddwyd arnynt ar gyfer cyrff mewn rhannau eraill o’r DU hefyd.
Nid ydym yn gwneud argymhellion yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, gall cyrff ddefnyddio ein rhestr wirio ar gyfer y Fenter Twyll Genedlaethol i fyfyrio ynghylch sut y maent yn mynd ati i wneud eu gwaith. Gallai canlyniadau’r Fenter Twyll Genedlaethol, a’r hyn yr ydym yn ei wybod am sut y mae cyrffyn rheoli eu gweithgarwch dan y Fenter Twyll Genedlaethol, oleuo gwaith archwilio arall hefyd.
Mae rhagor o gyrff cyhoeddus Cymru’n ymuno â’r Fenter Twyll Genedlaethol ar gyfer yr ymarfer nesaf, gan ehangu ei chyrhaeddiad a’i heffaith. Rydym yn bwriadu parhau i ymgysylltu â chyrff i hybu dullgweithredol ond seiliedig-ar-risg o adolygu pariadau data ac i roi cymorth i ddysgu gwersi ar y cyd.
Mae arnom hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod cyrff yn cofnodi deilliannau’n iawn. Gallwn wedyn adrodd stori mor llawn â phosibl am effaith y Fenter Twyll Genedlaethol. Ac rydym yn parhau i archwilio sut y gall cyrff o bosibl ddefnyddio data / swyddogaethau yn system y Fenter Twyll Genedlaethol mewn ffyrdd newydd, megis mewn perthynas â hawliadau am wasanaethau offthalmig.
Yn y cyfamser, mae Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus yn bwrw ymlaen â gwaith peilot mewn meysydd gan gynnwys twyll cyfradd busnes a thai cymdeithasol. Mae hefyd yn cynllunio datblygiadau ehangach ar gyfer system y Fenter Twyll Genedlaethol, gan gynnwys cefnogi newid i fwy o atal mewn amser real.