Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio’n dda i reoli galw cynyddol am wasanaethau. Mae perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros gwasanaethau canser wedi gwella ond mae’n dal islaw’r targed o 75%. Ym mis Mawrth 2026, oddeutu 62% oedd y perfformiad. Ceir amrywiad eang mewn perfformiad o ran amseroldeb rhwng llwybrau tiwmor, ac mae rhai cleifion yn aros am yn hwy nag eraill. 

    Mae’r Bwrdd Iechyd yn cymryd camau i reoli galw a phwysau cynyddol. Mae camau gweithredu’n cynnwys ailddylunio llwybrau gofal, cynyddu capasiti diagnostig, a gwella staffio. Fodd bynnag, mae llawer o gamau gweithredu’n adweithiol, yn peidio â chael eu tracio’n dda, ac yn peidio â chael eu gwerthuso’n llawn. O ganlyniad, nid ydynt wedi dwyn gwelliannau cynaliadwy mewn perfformiad eto. 

    Mae trefniadau arwain a llywodraethu’n darparu goruchwyliaeth a llwybrau uwchgyfeirio eglur, ond mae eu heffaith yn gyfyngedig. Ceir bylchau o ran cydlynu, prosesau adrodd anghyson, a defnydd cyfyngedig o ddata i roi cymorth i wneud penderfyniadau a chefnogi gweithgarwch craffu gan y Bwrdd. Mae hyn yn gwanhau atebolrwydd ac yn lleihau hyder bod newidiadau’n gwella deilliannau cleifion. 

    Mae’r Bwrdd Iechyd yn deall yr heriau y mae’n eu hwynebu. Fodd bynnag, nid oes ganddo un strategaeth eglur, hirdymor, gydgysylltiedig na chynllun gwella wedi’i gostio ar gyfer gwasanaethau canser. Mae pwysau ariannol, bylchau yn y gweithlu ac mewn capasiti, a defnydd cyfyngedig o ddata ar ddeilliannau a thegwch yn lleihau hyder yn ei allu i ddwyn gwelliannau amserol, teg a chynaliadwy.

     

     

CAPTCHA