Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Bwrdd Iechyd yn cymryd camau i gryfhau ei drefniadau llywodraethu ansawdd, ond ceir gwendidau o hyd y mae angen iddo ymdrin â hwy. Mae wedi sefydlu rhannau allweddol o System Rheoli Ansawdd (QMS) ddigidol ac wedi diweddaru nifer o fframweithiau llywodraethu. Ond mae angen i’r Bwrdd Iechyd gytuno ar flaenoriaethau ansawdd eglur, gydag arweinyddiaeth ac atebolrwydd cryf ar draws a thrwy’r sefydliad i gyd er mwyn eu cyflawni.

    Mae gwaith cynnar i roi’r Dyletswyddau Ansawdd a Gonestrwydd ar waith wedi dechrau, ond mae bylchau sylweddol yn dal i fodoli o ran arweinyddiaeth ar ansawdd, hyfforddiant staff a phrosesau adrodd. Mae gan y Bwrdd Iechyd system ddysgu newydd, ond nid yw wastad yn dangos bod gwersi’n cael eu dysgu. Mae amseroldeb ymateb i gwynion wedi gwella. Fodd bynnag, mae niferoedd cynyddol y cwynion yn gosod pwysau ar dimau. Mae nifer yr achosion sy’n cael eu hail-agor hefyd yn awgrymu bod angen cryfhau ansawdd ymchwiliadau.

CAPTCHA