Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Sut mae ysgrifennu creadigol yn helpu i wneud synnwyr o’r byd a gwella iechyd meddwl, o garcharorion i’r gweithlu gwasanaeth cyhoeddus.
Haf Bach Mihangel; cyfnod o gynhesrwydd a golau’r haf wrth i’r hydref gyrraedd, a gan fod dydd San Mihangel ar Fedi’r 29ain. Caiff ei alw’n Haf Indiaidd yn aml yn y Saesneg hefyd, ymadrodd a ddeilliodd o’r UDA. Dyma oedd teitl Ysgol Haf Hwyr Addysg Oedolion Cymru ac roedden ni wrth law yn y Gyfnewidfa Arfer Da gydag ychydig o gymorth technegol.
Un o’r sesiynau a gefnogwyd gennym oedd sgwrs ddifyr iawn gan yr awdures Sian Northey [agorir mewn ffenestr newydd] ar y berthynas rhwng ysgrifennu a llesiant. Yn ei sgwrs, crybwyllodd y gall awduron feddwl yn aml eu bod yn ysgrifennu am un peth, ond yn ysgrifennu am rywbeth arall mewn gwirionedd, a hynny’n llawer agosach at adref. Er mwyn pwysleisio, disgrifiodd y sylweddoliad a wnaeth ei tharo wrth ysgrifennu ei chyfres gyntaf o straeon byrion. ‘Roedd yn gweithio ar ddarn oedd yn ymddangosiadol ddiniwed am deimladau gwraig yn datgymalu a cholli ei hymdeimlad ohoni ei hun tra’n teithio mewn llong ofod ar daith hir, ond daeth i sylweddoli ei bod mewn gwirionedd yn ysgrifennu am ei phriodas ei hun.
Aeth ymlaen i ddisgrifio sut roedd wedi gweithio gyda charcharorion yn HMP Berwyn, Roedd y sesiynau ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd yn llyfrgell y carchar yn boblogaidd iawn fel arfer, gan fod bisgedi ar gael a gan fod cyfle i garcharorion wneud rhywbeth yn Gymraeg. Mae’r straeon newyddion diweddar [agorir mewn ffenestr newydd] yn ein hatgoffa nad yw gallu defnyddio eich mamiaith yn rhywbeth y dylid ei gymryd yn ganiataol. Roedd y sesiynau’n gyfle i’r carcharorion ymlacio rhywfaint hefyd. Wrth iddynt ymlacio fel hyn roedd yn rhoi cipolwg ar eu personoliaethau yn eu cyfanrwydd, nid eu personoliaethau carchar yn unig, wedi’i hwyluso gan y gair ysgrifenedig.
Mae’n hysbys ers tro byd bod hobïau, yn enwedig rhai creadigol yn ffordd dda o ysgafnhau straen a rhoi ymdeimlad o feistrolaeth a rheolaeth mewn byd prysur a dryslyd. Byd sydd ddim llai prysur a dryslyd yn sgil COVID-19. Dim ond y ffiniau sydd wedi newid.
Mae gan hobïau creadigol yn enwedig ffordd o adael i ni ddianc o’n bywydau. I ddefnyddio darllen ac ysgrifennu eto fel enghraifft: Elfen ganolog o gyfres o nofelau Thursday Next gan Jasper Fforde yw Thursday, sef gallu’r prif gymeriad i gludo ei hun rhwng dau fyd. Y mecanwaith ar gyfer gwneud hyn yw’r adeg pan mae darllenydd yn dechrau clywed yr adar canu yn y coed a ddisgrifir ar dudalen, dechrau arogli’r glaswellt a theimlo’r heulwen. Yr eiliad nesaf mae wedi’i chludo mewn i’r llyfr ac yn gorfod bod yn ofalus iawn nad yw’n effeithio ar y stori.
Yr eiliad drosgynnol honno o golli pob synnwyr o amser mewn breuddwyd bell yw natur rydd hobi neu weithgarwch hamdden. Yn yr un ffordd ag y mae cyrraedd golygfa ysblennydd wrth gerdded mynydd yn eiliad drosgynnol sy’n cael gwared ar amser ac ymdrech y daith.
Wrth i ni fynd ati i gyflawni tasg greadigol rydym yn ymgolli yn y gwaith ar sawl lefel – yn ymwybodol ac yn ddiarwybod. Mae’r weithred syml o ysgrifennu am eich diwrnod yn ffordd o brosesau digwyddiadau’r diwrnod. Mae’r weithred o ysgrifennu llythyr at rywun, heb unrhyw fwriad o’i anfon yn dechneg gydnabyddedig o gael meddyliau a theimladau allan o’ch pen, ac ar bapur. Y peth pwysicaf yw eu cael allan. I brosesu.
Ers y 12 mlynedd diwethaf o leiaf, mae cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi bod yn crebachu’n gyson. Mae natur y gwasanaethau eu hunain wedi newid yn llwyr hefyd, gyda’r argyfwng sydd ohoni yn achosi i bethau newid ac addasu yn gynt. Gyda newid daw straen a chyfle, a phryderon yn sgil hynny am lesiant a chefnogi staff.
Ymddengys mai nod parhaus unrhyw sefydliad yw canfod beth mae’r staff yn ei feddwl mewn gwirionedd, ydyn nhw’n fodlon gyda’u rolau mewn gwirionedd ac a yw pawb yn cydweithio ac yn cyd-dynnu i gyflawni’r amcanion? I ba raddau mae eu swyddi a’r sefydliad yn rhoi boddhad iddynt? Yn y pen draw mae arweinwyr am wybod os yw’r gweithlu’n eu cefnogi nhw a’u penderfyniadau.
Felly, a fyddai’n werth ceisio sbarduno creadigrwydd staff, heb gysylltiad â’u gwaith? Defnyddio technegau mynegiant rhydd i’w galluogi i gyfathrebu’n onest, yn ymwybodol ac yn ddiarwybod. I alluogi pobl i gyfathrebu’n rhydd, gyda’u hunain a’r byd mewn lle diogel.
Tybed beth fyddem yn ei ddysgu.
Mae Sion Owen yn Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth yn y Gyfnewidfa Arfer Da. Ymunodd ag Archwilio Cymru ym mis Tachwedd 2019, ac roedd wedi gweithio i awdurdod lleol cyn hynny.