Angen mwy o bwyslais ar atal gwastraff

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio mwy o'i sylw ac adnoddau ar ailgylchu yn hytrach nag ar atal gwastraff yn y lle cyntaf, a chynnydd cymysg a welwyd tuag at dargedau atal gwastraff. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (21 Mawrth 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei dull gweithredu a dysgu o arferion y tu allan i Gymru.

Cynyddu'r paratoadau at Brexit 'heb gytundeb', ond mae'r darlun yn amrywio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae cynllunio at Brexit 'heb gytundeb' yn cael ei gymryd o ddifrif ledled Cymru ac mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi cynyddu eu hymdrechion ers haf 2018, ond mae'r darlun yn amrywio ar draws y wlad. Dyna gasgliad adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ynddo, mae'n amlinellu rhai negeseuon clir i holl gyrff cyhoeddus Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â phrif heriau ac ansicrwydd Brexit.

Chwe cham tuag at graffu gwell yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae papur trafod a rhestr wirio chwe phwynt wedi'u paratoi ar gyfer cynghorau yng Nghymru er mwyn helpu i wella swyddogaethau trosolwg a chraffu. Mae cyhoeddiad heddiw dod â rhai themâu a materion cyffredin sydd wedi'u nodi yn ystod gwaith archwilio ar draws y 22 o awdurdodau lleol yn ystod 2017-18 at ei gilydd.

 

Mae'r papur trafod yn tynnu sylw at chwe maes allweddol y gallai llawer o gynghorau fyfyrio arnynt yn sgil heriau'r presennol a'r dyfodol.

Diffygion o ran llywodraethu a rheoli ariannol mewn dau gyngor cymuned

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Heddiw mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd sy'n amlygu diffygion o ran llywodraethu, rheoli ariannol a rheolaeth fewnol mewn dau gyngor cymuned – Bodorgan, a Llangristiolus a Cherrigceinwen.

Nodwyd materion tebyg yn y ddau gyngor. Yn nodweddiadol, y rhain oedd:

Gwariant ar staff asiantaeth wedi “cynyddu’n sylweddol” dros y blynyddoedd diwethaf

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r gwariant ar staff asiantaeth wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf – cynnydd o 171% dros saith mlynedd – yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae tua 80% o’r gwariant ar staff asiantaeth hyd yma yn 2018-19 yn cyflenwi ar gyfer swyddi gwag ac mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn ceisio lleihau’r galw am staff asiantaeth a’r pris a delir amdanynt.

Angen gwelliannau brys i drefniadau archwilio mewnol cynghorau tref a chymuned yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae adolygiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi datgelu pryderon difrifol ynghylch y trefniadau archwilio mewnol mewn Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Er bod dyletswydd gyfreithiol ar Gynghorau Tref a Chymuned i sicrhau bod trefniadau archwilio mewnol digonol ac effeithiol ar waith, mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi profi sampl ac wedi canfod:

Safon bresennol rheoli arian yn “siomedig” mewn gormod o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae safon bresennol llywodraethu a rheoli arian yn parhau i fod yn siomedig mewn gormod o Gynghorau Tref a Chymuned, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae nifer y problemau ariannol a nodwyd gan archwilwyr yn ystod y flwyddyn ariannol hon – sydd wedi arwain at ‘farn archwilio amodol’ – wedi dyblu. Ac mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod cyhoeddi adroddiadau ‘er budd y cyhoedd’, neu wneud argymhellion ffurfiol, i 8 o gynghorau yn 2018.

Teithio rhatach ar fysiau i bobl ifanc

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae cynllun ‘FyNgherdynTeithio’, sydd wedi rhoi gostyngiad o un rhan o dair i bobl ifanc 16-18 oed oddi ar deithiau bws yng Nghymru, wedi costio swm sylweddol llai i Lywodraeth Cymru ers mis Ebrill 2017 o gymharu â 19 mis cychwynnol ei weithrediad. Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae hyn yn codi cwestiynau amlwg ynghylch gwerth am arian y £14.74 miliwn a wariwyd yn ystod y cyfnod peilot cychwynnol, hyd yn oed o gymryd unrhyw gostau gweithredu ymlaen llaw i ystyriaeth.

Trem yn ôl dros 2018

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn bennaf oll, ein hamcan yw sicrhau bod pobl Cymru yn gwybod pa un a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n ddoeth a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella canlyniadau. Rydym ni hefyd wedi ymrwymo i adnabod a chyhoeddi arferion da.

Rydym ni wedi dewis 12 uchafbwynt sy’n dangos sut yr ydym ni wedi cyflawni’r amcanion hyn.

Cymru’n “gweithio’n dda” i weithredu datganoli cyllidol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Awdurdod Cyllid Cymru a Thrysorlys Cymru yn gweithio’n dda i weithredu cynlluniau i drosglwyddo rhai trethi a phwerau benthyg o Lywodraeth y DU i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyna ddywed adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.