Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Rydym yn edrych am Bennaeth Cyfathrebu, Rheolwr Prosiect Newid a Swyddog Prosiect Newid.
Mae Archwilio Cymru wrthi’n recriwtio ar gyfer Pennaeth Cyfathrebu i ddatblygu ac arwain ein dull cyfathrebu mewnol ac allanol gan adeiladu ar ein uchelgais i greu sefydliad mwy perthnasol a modern gyda llais cryfach a mwy eglur.
Rydym hefyd wrthi’n chwilio am Reolwr Prosiect Newid a Swyddog Prosiect Newid. Bydd y rhain yn swyddi amrywiol, heriol a gwerth chweil.
Mae Archwilio Cymru yn lle hwyliog a chyfeillgar i weithio ynddo gyda diwylliant hynod o gefnogol ac un lle rydym yn gweithio'n galed i wreiddio ein gwerthoedd a'n hymddygiad ym mhopeth a wnawn.
Rydym yn croesawu amrywiaeth o bob math ac felly’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a chyda llawer o wahanol sgiliau, profiadau a safbwyntiau.
Am fwy o wybodaeth ac i gyflwyno cais.