Gweithredu anghyfreithlon mewn Cyngor Tref

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Cyngor Tref Cei Connah wedi gweld diffyg cronnus o dros £234,000 yng ngweithrediad y Quay Café ers 2011, yn ôl adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw (19 Mehefin 2019). Mae’r adroddiad yn datgan na roddodd y cyngor ystyriaeth briodol i’r pwerau a oedd ganddo i agor y Quay Café, roedd y penderfyniad wedi’i seilio ar gynllun busnes a oedd wedi'i baratoi'n wael, ac o ganlyniad i hyn, roedd y penderfyniad i agor y caffi yn anghyfreithlon.

Blwyddyn gynhyrchiol arall i archwilio cyhoeddus yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Gallwch ddarllen yr uchafbwyntiau yn ein crynodeb digidol rhyngweithiol [agorir mewn ffenest newydd].
Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 wedi cael eu cyhoeddi bellach – y cyntaf ar gyfer ein Harchwilydd Cyffredinol newydd, Adrian Crompton. 
Fe lwyddom ni i gyflawni’r holl raglen o archwiliadau a oedd wedi’i nodi yn ein Cynllun Blynyddol 2018-19 i safon ansawdd uchel.

Gallai gwasanaethau cyhoeddus golli hyd at £1 biliwn y flwyddyn yn sgil twyll

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r darlun o drefniadau atal twyll yn sector cyhoeddus Cymru yn amrywio ledled Cymru, ond mae lle ar gyfer mwy o gydweithio a gweithio ar draws asiantaethau i frwydro yn erbyn twyll.

Mae'r colledion a achoswyd gan dwyll yn y sector cyhoeddus yn sylweddol ac, ar adeg o gyni, mae pob punt a gollir i dwyll yn bunt a allai gael ei gwario ar wasanaethau cyhoeddus. Mae amcangyfrifon o'r colledion hyn yn amrywio o £100 miliwn i £1 biliwn y flwyddyn, sy'n rhoi arwydd o'r risgiau posibl o dwyll sy'n wynebu'r sector cyhoeddus yng Nghymru.  

Yn dod cyn hir…

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dyma Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol, yn llofnodi ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon 2018-19, ond fel y Swyddog Cyfrifyddu yn hytrach na'r archwilydd drostynt.

Bydd yr adroddiad hwn yn adolygu'r gwaith a gyflawnwyd gennym dros y flwyddyn ddiwethaf, a bydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener 14 Mehefin 2019.

Gwyliwch y gofod hwn…

Lansiwch yrfa sy’n cyfrif

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

A ydych chi eisiau gyrfa sy'n cyfrif? A yw gwneud gwahaniaeth yn bwysig i chi? A oes gennych chi ddiddordeb mewn sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario yng Nghymru?

Os ydych wedi ateb 'oes/ydy' i'r cwestiynau hyn i gyd, mae gennym gyfleoedd swyddi ar gael i chi!

Rydym ni'n chwilio am Hyfforddeion Graddedig a Phrentisiaid Archwilio Ariannol.

Datgelu cynllun i wneud Swyddfa Archwilio Cymru yn fwy beiddgar ac yn fwy uchelgeisiol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru, Adrian Crompton, wedi amlinellu uchelgais newydd ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru – i wireddu ei photensial llawn ac i sbarduno gwelliannau. Bwriedir i'r Cynllun Blynyddol, a gyhoeddir heddiw ar y cyd â Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, wneud y sefydliad yn fwy beiddgar, yn fwy perthnasol ac yn fwy uchelgeisiol.

Swyddfa Archwilio Cymru yw'r corff sy'n gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'n archwilio gwerth tua £19 biliwn o arian trethdalwyr; bron i draean o gynnyrch domestig gros (GDP) Cymru. Mae'n gwbl annibynnol ar y llywodraeth.