Methiannau mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol mewn mwy o gynghorau cymuned

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi adroddiadau er budd y cyhoedd yn amlygu methiannau mewn trefniadau llywodraethu ac annigonolrwydd mewn rheolaeth ariannol mewn tri chyngor cymuned – Cadfarch, Glantwymyn a Llanbryn-mair.

Roedd materion tebyg wedi'u hamlygu ym mhob un o'r cynghorau. Yn nodweddiadol, roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

Mae angen i lywodraeth leol wneud rhagor i ddatblygu diwylliant data cadarn

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn eistedd ar 'wythïen gyfoethog' o ddata personol, ariannol a chymunedol a allai eu helpu i ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol. Ond, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, er bod cynghorau yn graddol ddatblygu diwylliant data cadarn, mae angen iddynt wneud rhagor i ddatgloi potensial y data hynny yn llawn.

Mae angen dull mwy cydlynol o reoli cymorth ariannol i fusnesau ar Lywodraeth Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ni wnaeth Llywodraeth Cymru lwyr wireddu ei gweledigaeth am adnewyddu economaidd mewn rhaglen gydlynol o gymorth ariannol i fusnesau, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar reoli prosiectau unigol. Mae angen iddi hefyd ddangos yn fwy eglur yr hyn y mae'r cymorth hwn yn ei gyflawni.

Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau ailwampio ei dull o ddarparu cymorth ariannol i fusnesau, drwy weledigaeth strategol newydd. 

Brexit a’r Rhaglen Datblygu Gwledig yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Roedd perygl sylweddol i Gymru golli cyllid mewn sefyllfa ‘dim cytundeb’ o ran Brexit tan i Lywodraeth y DU ymestyn telerau ei sicrwydd cyllid ôl-Brexit yn ddiweddar iawn. Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rheoli’r peryglon a’r cyfleoedd sy’n deillio o Brexit yng nghyswllt y Rhaglen Datblygu Gwledig – sy’n cynorthwyo ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau gwledig.

Ailgylchu ar gynnydd yng Nghymru ac mae’r dulliau yn fwy cyson

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Llywodraeth Cymru a chynghorau yng Nghymru yn cydweithio mwy, sy’n helpu i wneud dulliau ailgylchu yng Nghymru yn fwy cyson ac mae’n annog mwy o bobl i gymryd rhan. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n nodi bod Llywodraeth Cymru yn credu ei bod i raddau helaeth wedi goresgyn etifeddiaeth o densiynau a drwgdybiaeth ynghylch yr ymagwedd a argymhellir ganddi tuag at ailgylchu yn y cartref.

Mae angen i gynghorau feddwl a gweithredu’n wahanol i gynnal gwasanaethau yn ardaloedd gwledig Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n galw ar gynghorau i feddwl a gweithredu’n wahanol i fynd i’r afael â’r her.

Mae’r adroddiad yn archwilio’r modd y mae ardaloedd gwledig Cymru yn newid ac yn ystyried yr her ddemograffig sy’n wynebu cynghorau sy’n darparu gwasanaethau i gymunedau gwasgaredig. Mae conglfeini ein pentrefi’n diflannu, fel y banciau a’r swyddfeydd post, a’r seilwaith yn wael ac, o ganlyniad, mae’r cynghorau’n wynebu cryn her ac yn ei chael yn anodd dod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o helpu’r cymunedau hyn.

Allbynnau Cynhadledd Dyfodol Diamod ar-lein nawr

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Daeth y digwyddiad ag unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ar draws Cymru ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster mewn cyllid ynghyd.

Gwnaeth digwyddiad eleni adeiladu ar gynadleddau llwyddiannus y blynyddoedd diwethaf drwy archwilio'r newidiadau a'r heriau sy'n debygol o gael effaith ar weithwyr cyllid proffesiynol yn ystod eu gyrfa, ac fe'i cyflwynwyd gan weithwyr cyllid proffesiynol blaenllaw yn y maes.

Mae gwasanaethau radioleg dan straen ac mae angen gweithredu

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae gwasanaethau radioleg Cymru dan bwysau oherwydd bod y galw amdanynt yn cynyddu, oherwydd anawsterau o ran recriwtio a chadw staff, oherwydd bod y cyfarpar sganio’n hen ac yn annigonol, ac oherwydd gwendidau TG. Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n galw am weithredu clir a phenodol i sicrhau bod modd i wasanaethau ymdopi â’r galw yn y dyfodol.

Y sefyllfa’n gwaethygu wrth i oediadau ar gyfer apwyntiadau dilynol cleifion allanol yng Nghymru gynyddu

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae nifer y bobl sy'n aros am apwyntiadau dilynol cleifion allanol mewn ysbytai yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol ers 2015, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

£5.4 miliwn o dwyll a gordaliadau wedi’i nodi yng Nghymru trwy'r Fenter Twyll Genedlaethol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol wedi bod yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus hyd yn hyn - gan ddatgelu £5.4 miliwn o dwyll a gordaliadau ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o'i gymharu â £4.4 miliwn y tro diwethaf.