Gweminar fyw: Strategaeth Dynamig ‘Gan amlaf, ni fydd yr hyn sy'n gweithio mewn cyfnodau arferol yn gweithio mewn argyfwng. Mae angen i ni feddwl a gweithredu'n wahanol' - Rheoli cymhlethdod (ac anhrefn) ar adegau o argyfwng – Canllaw maes i wneuthurwyr penderfyniadau 2021
Gwneud synnwyr o argyfwng: Dysgu o Bandemig COVID-19 Mae bron i flwyddyn wedi mynd ers y cyfyngiadau symud cyntaf yn y DU. Ers hynny, mae staff ar draws Archwilio Cymru wedi bod yn cadw cofnod o arferion newydd ac arloesol sy'n deillio o bandemig COVID-19. Casglwyd cyfoeth o ddata yn amrywio o symud gwasanaethau ar-lein i wirfoddoli yn y gymuned. Rydym wedi rhannu'r wybodaeth hon drwy flogiau, ar Twitter, mewn gweminarau ar-lein a chrynodebau bob pythefnos.