Cyfarwyddwr Archwilio – Archwiliad Perfformiad

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydym yn dymuno recriwtio Cyfarwyddwr Archwilio sy’n bennaf gyfrifol am bortffolio o waith archwilio perfformiad cenedlaethol a/neu leol sy'n cynnwys gwerth am arian a chymhwyso'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy' o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Os ydych chi'n angerddol am atebolrwydd a gwella mewn gwasanaethau cyhoeddus, eisiau gweithio gyda phobl wych, ac yn gallu ysbrydoli a grymuso eraill, dyma'r swydd i chi.

Kate Havard

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn syth o'r brifysgol, ymunodd Kate â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Hyfforddai Archwilio Mewnol a dechreuodd ei hastudiaethau cyfrifyddu. Yn 2004, ymunodd Kate â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru ac ymunodd ag Archwilio Cymru ar ei ffurfio yn 2005. Enillodd Kate statws ACCA yn 2007 a daeth yn arweinydd tîm.