Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Rydym yn gweld enghreifftiau da, ond rydym hefyd yn gweld achosion lle nad yw cyrff cyhoeddus wedi rhoi rhyw lawer o ystyriaeth benodol os o gwbl i’r Ddeddf
Mae cyflymu cynnydd yn dechrau â blaenoriaethu atal; a chreu’r amodau cywir i’r Ddeddf gydio a ffynnu.
Mae a wnelo’r adroddiad hwn â sut y mae cyrff cyhoeddus Cymru’n meddwl ac yn gweithredu ar gyfer yr hirdymor. Yn benodol, mae a wnelo â sut y mae cyrff cyhoeddus yn gwneud yr hyn y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei wneud ar adeg pan fo cynaliadwyedd a fforddiadwyedd hirdymor gwasanaethau ac ymrwymiadau polisi’r Llywodraeth yn cael eu profi.
Dros y 10 mlynedd y mae’r Ddeddf wedi bod ar waith mae’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus wedi tyfu. Os mai’r Ddeddf yw ateb Cymru i’r heriau mawr, mae angen ei rhoi ar waith yn dda. Dylai’r Ddeddf gyffwrdd â phob agwedd ar waith cyrff cyhoeddus. Mae a wnelo â llywio newid yn yr hyn y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud a sut y maent yn ei wneud.
Canfuom amrywiad mewn ymarfer o fewn sefydliadau, ac o fewn a rhwng sectorau. Mae gan y system iechyd yn arbennig rywfaint o ffordd i fynd o ran cymhwyso ffordd o feddwl sy’n rhoi sylw i genedlaethau’r dyfodol ar draws ei gweithgarwch cynllunio a chyflawni.
Mae cyflymu cynnydd dan y Ddeddf yn dechrau â blaenoriaethu atal. Heb newid mwy systematig tuag at atal, bydd cyllidebau’n cael eu disbyddu, ac mae’n debygol y bydd deilliannau’n waeth. Mae angen hefyd i gyrff cyhoeddus wella’r wybodaeth y maent yn ei defnyddio i oleuo prosesau cynllunio a phenderfynu, cael gwell gafael ar y goblygiadau o ran adnoddau, a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu deall effaith. Ac mae cryn dipyn i’w wneud o hyd i gymhwyso’r Ddeddf i swyddogaethau megis cynllunio’r gweithlu, rheoli asedau, a chynllunio ariannol.
Bydd cyflawni newid yn galw am weithredu gan yr holl gyrff cyhoeddus yn unigol. Ond ni fydd hynny’n ddigon. Maent yn gweithio mewn amgylchedd nad yw wastad yn hybu’r newid hwnnw. Ceir camau gweithredu y gallai’r Llywodraeth eu cymryd i greu’r amodau ar gyfer cynnydd.
Yn 2020, fe alwom ni am adolygiad o'r Ddeddf i archwilio sut y gallai rhwystrau i’w rhoi ar waith gael eu goresgyn a sut y gallai Cymru ddal i fod ar flaen y gad o ran camau gweithredu i wella llesiant. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ni weithredwyd ar yr argymhelliad hwnnw yn y ffordd yr oeddem wedi gobeithio.
Rydym wedi cyflwyno argymhellion i gyrff cyhoeddus unigol trwy’r gwaith archwilio y mae’r adroddiad hwn yn adeiladu arno. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno pedwar argymhelliad pellach. Argymhellion strategol i Lywodraeth Cymru ydynt, a ddyluniwyd gyda’r amodau ehangach ar gyfer cynnydd mewn golwg. Maent yn galw ar y Llywodraeth i leihau i’r eithaf yr ansicrwydd ynghylch cyllid i helpu cyrff i gynllunio’n effeithiol ac i roi anogaeth i fuddsoddi mewn atal. Maent hefyd yn galw ar y Llywodraeth i fwrw golwg o’r newydd ar yr asesiad o berfformiad ac effaith dan y Ddeddf ac i nodi'n glir cwmpas ac amserlen ar gyfer ei werthusiad ei hun o'r Ddeddf yng nghyd-destun craffu ehangach.
Rydym yn gobeithio y gall yr adroddiad hwn gyfrannu at sgwrs ehangach ynglŷn â sut y mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf i gael effaith wirioneddol a pharhaus. Rhaid i bawb sydd mewn rolau craffu chwarae eu rhan i gydnabod arfer da a mynnu gwelliant pan nad yw cyrff yn gwneud digon.
Ddeng mlynedd ers ei chychwyn, rwy’n gweld egni a brwdfrydedd dros y Ddeddf mewn mannau amrywiol; ac rwy’n gweld cyrff cyhoeddus yn cael sgyrsiau gwahanol, yn gwneud penderfyniadau a oleuir gan y Ddeddf, a newidiadau mewn ymarfer. Ond er yr holl enghreifftiau da, ceir y rhai nad ydynt mor dda. Nid yw’r Ddeddf yn ysgogi’r newid system gyfan a fwriadwyd. Wrth gwrs, mae llywio newid ar draws sefydliadau sy’n aml yn fawr ac yn gymhleth yn anodd. Ond erfyniaf ar gyrff cyhoeddus i weld yr egwyddor datblygu cynaliadwy fel mater o werth am arian. Ni allwn fforddio dylunio datrysiadau nad ydynt yn diwallu anghenion pobl, llethu cenedlaethau’r dyfodol â chostau uwch y gellir eu hosgoi, na cholli cyfleoedd i gyflawni mwy â’r un faint neu â llai.