Gogledd Cymru - O ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol – Cost methiant mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r adroddiad yn nodi bod cost methiant mewn llywodraethu a rheolaeth ariannol nid yn unig yn sylweddol o ran cost ymgynghoriaeth a gwasanaethau cyfreithiol, ond hefyd o ran y miloedd o oriau a dreulir gan lawer o wahanol gyrff cyhoeddus yn ymateb i'r materion sylfaenol.

Ond daw'r effaith andwyol fwyaf o’r ffordd y gall y materion hyn dynnu sylw sefydliad odd ar ei amcanion craidd a'i wasanaethau ar gyfer y cyhoedd.

Comisiynu gwasanaethau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Adolygiad thematig o bob un o’r 22 prif gyngor yn edrych ar eu trefniadau ar gyfer comisiynu gwasanaethau ac adroddiad cryno cenedlaethol.

Llety dros dro

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Astudiaeth o sut mae cynghorau a'u partneriaid yn gweithio i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am lety dros dro. Byddwn hefyd yn ystyried goblygiadau ariannol presennol ac yn y dyfodol ac yn asesu a oes cyfleoedd i wella gwerth am arian.