• Prentis Gwyddor Data
    £27,601 - £33,596 y flwyddyn
    Bydd y cyflog yn cychwyn ar bwynt isaf y raddfa.
    Caerdydd

Ynglŷn â'r swydd hon

Description

Amdanom Ni: Archwilio Cymru yw corff archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n ymroddedig i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Rydym yn darparu sicrwydd annibynnol ac yn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.

Y Cyfle:

Ydych chi'n cael eich sbarduno gan niferoedd, tueddiadau a graffiau? Oes gennych chi ddiddordeb mewn codio cyfrifiadurol? Hoffech chi gael y cyfle i ennill tra byddwch chi'n dysgu? 

Os yw'r ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r uchod, gallai'r Brentisiaeth Gwyddor Data yn Archwilio Cymru fod yn berffaith i chi.

Mewn byd sy'n cael ei lywio fwyfwy gan ddata, gallai prentisiaeth mewn gwyddor data eich gosod ar wahân i'r gystadleuaeth yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae ein rhaglen tair blynedd arloesol, wedi'i hariannu'n llawn, yn darparu cyfle unigryw i ddod yn ddadansoddwr medrus.

Nid cyfle yn unig i rywun sy'n dechrau yn y byd gwaith yw hwn. Efallai eich bod yn chwilio am newid gyrfa. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran oedran. Mae'r brentisiaeth yn rhaglen tair blynedd wedi'i hariannu'n llawn sy'n eich ategu i ennill gradd mewn gwyddor data tra'n datblygu profiad gwerthfawr yn y swydd.

Byddwch yn ennill ystod gynhwysfawr o sgiliau a phrofiadau dadansoddol, tra'n cyfrannu'n weithredol at waith pwysig Archwilio Cymru.

Cyfrifoldebau allweddol: 

Bydd y prentis yn gweithio yn y tîm Dadansoddi Data, sy'n gyfrifol am wella pob agwedd ar y ffordd y mae Archwilio Cymru yn defnyddio data.  Yn eich swydd byddwch yn ymuno â thîm heini sydd â chysylltiadau agos â phob rhan o'r busnes. O ddydd i ddydd, byddwch yn cymryd rhan mewn cyflawni'r swyddogaethau craidd hyn:

  1. Arwain ymchwil a datblygu i dechnegau ac offer data arloesol.
  2. Adeiladu offer data sydd ag effaith a'u gwreiddio fel rhan arferol newydd o'n gwaith.
  3. Sbarduno moderneiddio archwiliad ariannol a pherfformiad drwy ei wneud yn fedrus o ran data.
  4. Rheoli setiau data allweddol yn ganolog i sicrhau bod data safonol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau.
  5. Gweithio ochr yn ochr â thimau archwilio a chorfforaethol i'w galluogi i adeiladu offer/cynhyrchion data 'cod isel'.
  6. Sgrinio’r holl gynhyrchion data cyn eu cyhoeddi fel cam rheoli ansawdd ychwanegol.
  7. Hyrwyddo llythrennedd data ar gyfer yr holl staff, er mwyn gwella'r diwylliant data yn Archwilio Cymru.

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:

  • Hyfforddiant a mentoriaeth cynhwysfawr
  • Amgylchedd gwaith cynorthwyol a chynhwysol
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygiad gyrfa posibl

Pecyn cyflog a budd-daliadau

  • £27,601- 33,596
  • 33 diwrnod o wyliau blynyddol
  • 35 awr o waith yr wythnos.
  • Absenoldeb astudio â thâl un diwrnod yr wythnos i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd
  • Gostyngiadau ar y stryd fawr
  • Trefniadau gweithio hyblyg a gweithio hybrid

Gofynion hanfodol:

  • Tair Lefel A ar radd B neu uwch (neu gymwysterau cyfatebol), gan gynnwys o leiaf un pwnc STEM.
  • Rhywfaint o allu rhaglennu / codio
  • Sgiliau da mewn TG, dadansoddi a datrys problemau
  • Sgiliau llafar, ysgrifenedig a rhyngbersonol da
  • Y gallu i weithio'n effeithiol mewn tîm

Cliciwch yma i weld y disgrifiad swydd.

Sut i wneud cais:

I wneud cais, allech gwblhau’r ffurflen gais ar-lein ar ein gwefan, gan sicrhau eich bod yn nodi'r HOLL ofynion addysgol, gorffennol a chyfredol. Ceir rhagor o wybodaeth am y swydd a chymhwysedd ar ein gwefan. I gael trafodaeth anffurfiol am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch â Steve Lisle ar 07791 007147 neu Helen Goddard ar 02920 320642. Ffoniwch rhwng 9 o’r gloch yb a 5 o’r gloch yp ar ddyddiau'r wythnos.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 18 Mehefin 2025. Ar ôl sifft o geisiadau ar-lein, caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gymryd rhan mewn profion seicometrig. Byddwn yn defnyddio canlyniadau'r profion i gynnal ail sifft. Caiff yr ymgeiswyr sy'n llwyddiannus ar ôl y profion seicometrig eu gwahodd i asesiad sy'n cynnwys cyflwyniad, cyfweliad ac ymarfer technegol. Rydym yn bwriadu cynnal asesiadau ar 7 a 8 Gorffennaf 2025. Caiff yr holl asesiadau a chyfweliadau eu cynnal yn bersonol yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd.

Wrth wneud cais ar-lein cofiwch bwyso'r botwm parhau ar ôl cyflwyno'ch cais – unwaith y byddwch wedi gwneud hyn fe gewch gydnabyddiaeth i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Os na fyddwch yn derbyn cydnabyddiaeth, cysylltwch â'n Tîm Adnoddau Dynol ar unwaith ar 02920 320500 neu drwyAdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru

Sylwer: nid ydym yn gallu noddi fisas gwaith.

Os ydych yn awyddus i ddechrau eich gyrfa ym maes archwilio a chael effaith gadarnhaol ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!

Dyddiad Cau

  • 18/06/2025
Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy