Prentis Cyllid Mwy am y swydd Ydych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor? Neu a ydych chi'n gweithio ym maes cyllid ac yn chwilio am lwybr datblygu proffesiynol? Os oes gennych ddiddordeb mewn ennill a dysgu drwy lwybr prentisiaeth uwch. Yna efallai mai’r Rhaglen Prentisiaeth Cyllid yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano. Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag yn ein timau De a Gorllewin Cymru.
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - Aelod Annibynnol Pwy yw Archwilio Cymru? Archwilio Cymru yw'r corff archwilio annibynnol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle ein rôl ni yw:
Adolygiad cenedlaethol yn amlygu cyfleoedd i gryfhau trefniadau llywodraethu ar draws Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru
Lleoliad Gwaith (2024) Rydym yn awyddus i recriwtio ar gyfer lleoliadau gwaith i gefnogi ein tîm gwasanaethau archwilio yn ystod misoedd yr haf. Mae'r rhain yn rolau tymor byr, tymor penodol a byddant yn rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â gwaith ystyrlon a diddorol yn cefnogi archwilio cynghorau tref a chymuned a chyrff llywodraeth leol eraill.
Swyddog Prosiect Newid Ynglŷn â'r swydd Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Prosiect Newid, swydd sy'n ganolog wrth gyflawni ein Rhaglen Newid. Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ar draws y busnes a'n rhanddeiliaid allanol, byddwch yn cefnogi'r Tîm Newid canolog a rheolwyr prosiect i gydlynu a chyflawni gweithgareddau rheoli newid.
Uwch Archwilydd - Ariannol Mwy am y swydd Rydym yn awyddus i recriwtio Uwch Archwilwyr parhaol i ymuno â'n tîm Gwasanaethau Archwilio gyda swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd yn ein rhanbarthau Gogledd, De a Gorllewin Cymru. Ydych chi ar hyn o bryd yn gweithio mewn tîm cyllid ond yn chwilio am her newydd neu'n gweithio o fewn archwilio ond hoffech gael her sector newydd? Ie? yna efallai mai ein rôl Uwch Archwilydd yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano. Am beth yr ydym yn chwilio? Byddwch yn: