Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae technoleg ddigidol yn cynnig cyfleoedd enfawr, ond mae hefyd yn cynnwys risgiau gwerth am arian sylweddol
0 "News"
Wrth i gynghorau geisio trawsnewid eu gwasanaethau ac wrth i dechnoleg barhau i newid, rydym yn debygol o weld cynnydd cyflym yn y defnydd o atebion digidol.
Gallai cyfleoedd gwmpasu ehangder gwasanaethau'r cyngor, p'un a yw'n canolbwyntio ar wella cyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau, cynyddu effeithlonrwydd neu wella mynediad at wasanaethau. Ond a yw cynghorau mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a sicrhau gwerth am arian yn y broses?
Gwnaethom gynnal adolygiad o'r dulliau strategol o ymdrin â digidol ym mhob un o'r 22 prif gyngor yng Nghymru. Ar y cyfan, er bod llawer o gynghorau yn cydnabod y rôl y gall digidol ei chwarae wrth gyflawni eu huchelgeisiau tymor hwy, mae gwendidau yn eu dulliau gweithredu yn peri risgiau gwerth am arian.
Gwelsom nad oedd cynghorau'n aml yn glir ynghylch sut yr oeddent yn mynd i ariannu eu huchelgeisiau. Gwelsom wendidau wrth fonitro effaith a gwerth am arian prosiectau digidol. Gallent hefyd wneud mwy i gynnwys dinasyddion a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i helpu i gyflawni eu hamcanion hirdymor.
Fe ddaethom o hyd i rai enghreifftiau o arfer da er mwyn i gynghorau eu nodi.
Fe wnaethom nodi pum maes allweddol i'w gwella ar draws y 22 cyngor yn ymwneud â thystiolaeth, cydweithredu, adnoddau, effaith a dysgu. Bydd y gwersi hyn yn berthnasol i bob cyngor mewn ffyrdd gwahanol, felly rydym yn annog cynghorau i'w hystyried yng nghyd-destun eu hadroddiadau unigol.
Fel yr amlygwyd yn fy adroddiad yn gynharach eleni, 'Ymdrin â heriau wrth iddynt godi i ddiogelu at y dyfodol', nid ydym bob amser yn gweld tystiolaeth glir bod buddsoddi mewn systemau newydd yn elwa ar y manteision a fwriadwyd ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Bydd yn bwysig i gynghorau roi gwerth am arian, nawr ac yn y tymor hwy, wrth wraidd eu gwaith ar drawsnewid digidol. Bydd cynnwys dinasyddion a gweithio gydag eraill yn allweddol i hynny. Rwy'n eu hannog i ystyried y gwersi a'r enghreifftiau ymarfer a amlygwyd yn yr adroddiad wrth iddynt barhau i ddatblygu eu gwaith yn y maes hwn.