Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi gweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Chyngor Sir Powys i gyflwyno dull newydd o reoli cwympiadau mewn cartrefi gofal. Dangosodd canlyniadau cynnar ostyngiad o 25% yn nifer y galwadau i WAST oherwydd cwympiadau.
Mae ystadegau’n dangos, er y bydd 50% o oedolion dros 80 oed yn cwympo o leiaf unwaith y flwyddyn (National Institute for Health and Care Excellence), mae hyn dair gwaith yn fwy tebygol o ddigwydd mewn cartrefi gofal. Mewn 45% o achosion, nid yw’r person sydd wedi cwympo yn cael ei anafu (Prifysgol Caerdydd) ond mae’r gwasanaeth ambiwlans yn cael ei alw fel mater o drefn i helpu i godi’r unigolyn.
Mae pobl hŷn sy’n cwympo yn cyfrif am fwy nag 80% o’r holl alwadau i’r gwasanaeth ambiwlans (West Midlands Ambulance Service University NHS Foundation Trust) ac mae amseroedd aros am ambiwlans ar gynnydd. Os na chaiff preswylydd ei anafu, bydd y gwasanaeth ambiwlans yn mynd ati’n briodol i gategoreiddio’r alwad yn un ‘werdd’, a all arwain at oedi hir cyn i barafeddyg gyrraedd.
Gall oedi o ran ymadfer arwain at effeithiau iechyd mwy difrifol i’r preswylydd. Mae 20% o gleifion dros 65 oed sy’n cwympo ac sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty wedi bod ar y llawr am awr neu fwy, ac mae ymchwil yn dangos y bydd 50% o’r cleifion hyn yn marw o fewn chwe mis (Vellas et al,1997).
Fel partneriaeth, datblygodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, WAST a Chyngor Sir Powys gynnig a lwyddodd i sicrhau Cyllid Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth ychwanegol yn 2022/23. Cafodd sesiynau ymgyfarwyddo eu cyflwyno i staff cartrefi gofal ym Mhowys (dan arweiniad staff WAST – gweler y llun uchod) i leihau nifer yr ymatebion brys sydd eu hangen gan WAST ar gyfer pobl sydd wedi cwympo ond nad ydynt wedi cael eu hanafu.
Roedd y sesiynau’n cynnwys defnyddio ap I-STUMBLE (i leihau nifer y galwadau i WAST drwy leihau nifer y bobl y mae angen i WAST eu codi o’r llawr, ac i leihau hefyd nifer y bobl yr ystyrir eu bod wedi bod ar y llawr am gyfnod hir yn aros am gymorth ar ôl cwympo ('long lie') ac felly yr eir â hwy’n awtomatig i Adran Achosion Brys). Gan nodi y gall trosiant staff fod yn uchel mewn rhai cartrefi gofal, cafodd sesiwn ymgyfarwyddo gaeedig ei recordio i helpu staff i gofio’r wybodaeth ac i gefnogi staff newydd i ddeall I-STUMBLE. Hefyd, cafodd data ansoddol ei gasglu gan staff cartrefi gofal fel rhan o’r dysgu a deall ar y cyd.
Yn unol â’r cyllid afreolaidd, mynychodd cyfanswm o 157 o aelodau o staff o 21 o gartrefi gofal sesiynau ymgyfarwyddo cwympiadau ledled Powys yn 2022/23 a chawsant eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio I-STUMBLE a sut i godi preswylydd cartref gofal yn ddiogel gan ddefnyddio clustog Mangar. Roedd yr adborth a gafwyd gan staff cartrefi gofal am y sesiynau ymgyfarwyddo yn gadarnhaol iawn. Yn 2022/23, defnyddiwyd Cyllid y Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal Argyfwng i helpu i brynu 15 o glustogau Mangar Camel ar gyfer cartrefi gofal a fynegodd ddiddordeb – mae’r clustogau hyn yn caniatáu i staff cartrefi gofal godi preswylwyr o’r llawr mewn rhai amgylchiadau.
Roedd y canlyniadau cychwynnol yn gadarnhaol: rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Ebrill 2023, dangosodd y data fod WAST wedi mynychu 25% yn llai o achosion o gwympo yn y cartrefi a fynychodd sesiynau ymgyfarwyddo, o gymharu â’r cartrefi gofal hynny nad oeddent yn bresennol. Yn ystod yr un cyfnod, dangosodd data fod y gyfradd trosglwyddo 3% yn uwch ar gyfer cartrefi a fynychodd sesiynau ymgyfarwyddo (60%) o gymharu â chartrefi nad oeddent yn bresennol (57%). Y rhagdybiaeth yw bod y ganran trosglwyddo yn nodi priodoldeb galwadau i wasanaethau 999/WAST; po uchaf yw’r gyfradd trosglwyddo, y mwyaf addas yw’r alwad honno o ran angen ymateb 999 brys.
O ran arbed costau, nododd y prosiect y canlynol:
Yn ystod y misoedd ers hynny a chyda’r prosiect yn dod i ben ym mis Mawrth 2023 oherwydd cyllid afreolaidd, mae nifer y galwadau sy’n gysylltiedig â chwympiadau a nifer y trosglwyddiadau wedi dechrau cynyddu eto. Er mwyn darparu dull mwy cynaliadwy, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wrthi’n penodi i dair swydd Ymarferydd Therapi Cynorthwyol Atal Cwympiadau Band 4, wedi’u hariannu’n rhannol drwy’r Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal Argyfwng, a fydd yn rhoi cefnogaeth barhaus i gartrefi gofal. Mae trafodaethau cychwynnol rhwng WAST a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi awgrymu y dylid targedu gweithwyr gofal cartref fel y garfan nesaf o staff petai cyllid yn cael ei nodi.
Yn ogystal â’r prosiect uchod, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau partner i adolygu ei lwybr cwympiadau, gyda’r cam cyntaf yn ystyried atal. Mae un man mynediad, gyda chefnogaeth tîm amlbroffesiynol, amlddisgyblaethol yn cael ei sefydlu. Mae ap wedi’i ddatblygu i sicrhau bod modd cynnal asesiad amlffactorol er mwyn nodi pa gamau neu wasanaethau y gall unigolyn elwa arnynt i leihau’r risg o gwympo. Mae Tîm Therapïau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn treialu’r ap, a disgwylir i’r llwybr diwygiedig gael ei gyflwyno’n ehangach ar ddechrau 2024.
John Morgan
Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys John.Morgan3@wales.nhs.uk