Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ein hofferyn data newydd yn dangos gwariant ychwanegol pob corff y GIG o ganlyniad i’r pandemig a’u sefyllfaoedd ariannol presennol
Bu angen ymateb enfawr gan GIG Cymru yn sgil COVID-19, gyda’r angen am fwy o adnoddau mewn meysydd megis staffio, offer, cyffuriau, offer TG a gwasanaethau. Hanner ffordd drwy’r flwyddyn eithriadol hon, adroddodd cyrff y GIG mai £501 miliwn oedd cyfanswm cost net gweithgarwch yn gysylltiedig â COVID-19.
Dau o’r meysydd gwario allweddol oedd cyfarpar diogelu personol (£130 miliwn) a staffio (£109 miliwn), gyda chyrff yn defnyddio cymysgedd o oramser, staff asiantaeth, myfyrwyr a dychwelwyr. Sefydlu a rhedeg ysbytai maes (£122 miliwn) a’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (£30 miliwn) oedd y prosiectau gwariant mawr. Erbyn mis Medi, roedd Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £469 miliwn o gyllid i gyrff y GIG ar gyfer costau yn gysylltiedig â COVID-19.
Nodir y costau hyn a sefyllfaoedd ariannol cyffredinol yn ein hofferyn data newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Yn ogystal â chostau uniongyrchol, mae COVID-19 wedi effeithio ar wasanaethau arferol y GIG, ac felly ar gyllid, mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn ddealladwy, mae cyrff y GIG wedi ei chael hi’n anodd gwneud arbedion ac yn rhagweld £72 miliwn yn llai nag yr oeddent yn ei ddisgwyl. Fodd bynnag, caiff hyn ei fantoli gan ostyngiad o £100 miliwn mewn costau oherwydd oedi gweithgarwch a gohirio buddsoddiad.
Yn gadarnhaol, er gwaethaf y pandemig, mae sefyllfa ariannol gyffredinol GIG Cymru yn sefydlog o’i chymharu â’r llynedd, gan gymryd bod Llywodraeth Cymru yn gyffredinol yn ariannu costau sy’n gysylltiedig â COVID-19. Mae cyrff y GIG yn adrodd bod cyfanswm y diffyg canol blwyddyn yn £43 miliwn, gyda’r diffyg diwedd blwyddyn a ragwelir yn £91 miliwn. Prin yw’r newid yn y sefyllfaoedd hyn o’u cymharu â’r llynedd pan oedd y diffygion canol blwyddyn a diwedd blwyddyn yn £46 miliwn ac £89 miliwn yn y drefn honno.
Yn yr un modd â’r llynedd, mae tri chorff y GIG yn rhagweld diffyg. Er bod sefyllfa BIP Hywel Dda wedi gwella a bod sefyllfa BIP Betsi Cadwaladr yn ymddangos yn debyg i’r llynedd i raddau helaeth, mae sefyllfa BIP Bae Abertawe yn parhau i ddirywio. [Ers cyhoeddi’r ffigurau hyn y mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gyllid cymorth strategol i BIP Betsi Cadwaladr sy’n cynnwys £40 miliwn i fantoli’r diffyg a ragwelir ar gyfer y flwyddyn bresennol].
Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol i gyrff y GIG ac mae costau ariannol rheoli’r pandemig wedi bod yn sylweddol. Ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf y gwelliant cyffredinol i iechyd ariannol GIG Cymru, parhaodd sawl bwrdd iechyd i gofnodi diffygion blynyddol, ac mae’n edrych yn debygol y bydd hyn yn parhau yn 2020-21. Fodd bynnag, mae’n braf gweld, yn gyffredinol, gan gymryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gost o ymdrin â COVID-19, nad yw sefyllfa ariannol gyffredinol GIG Cymru wedi gwaethygu wrth fynd i’r afael ag effeithiau eithriadol y pandemig. Byddaf yn disgwyl gweld llywodraethu da o ran y gwariant ychwanegol a chraffu cadarn ar geisiadau am gyllid ychwanegol a wneir gan gyrff y GIG.