Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Rydyn ni'n un o'r deg o gyflogwr gorau am y drydedd flwyddyn yn olynol

23 Medi 2025
  • Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cadw ein lle fel un o'r deg o gyflogwr gorau yn y Meincnod Teuluoedd sy'n Gweithio!

    Sefydlwyd y Meincnod Cyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio  gan Working Families yn 2010. Mae'n cwmpasu cyfan y DU ac yn agored i holl aelodau cyflogwyr Working Families.   

    Cawsom ein hasesu ar y modd yr ydym wedi integreiddio ein strategaeth a diwylliant sefydliadol, ein polisïau, ein harfer cyson, yn ogystal â thystiolaeth ac ystadegau. Edrychodd Working Families ar ein polisïau a'n harferion sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n ategu ein rhieni a'n gofalwyr.

    Y Deg Cyflogwr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio eleni – yn nhrefn yr wyddor – yw:              

    • Archwilio Cymru
    • Coleg Imperial Llundain
    • Cronfa Byw'n Annibynnol yr Alban
    • DAC Beachcroft
    • Grant Thornton
    • Hill Dickinson LLP
    • Mishcon de Reya
    • NELFT
    • Pinsent Masons
    • Senedd Cymru
    ,
    Rwy'n falch iawn ein bod wedi cadw ein safle yn y 10 uchaf, sy'n dangos ein hymrwymiad i ategu ein staff, a chreu gweithle gwirioneddol amrywiol a chynhwysol. Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol