Sut mae technoleg yn galluogi gweithio'n gydweithredol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Mwy am y digwyddiad hwn 17 Hydref: Llanrwst, Conwy 24 Hydref: Clwb Criced Morgannwg, Caerdydd Mae gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol iawn, ac mae gweithio mewn partneriaeth wedi dod yn rhan allweddol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn ogystal â hyn, rydym yn byw mewn byd lle mae technolegau digidol yn newid trwy’r amser. Mae’r posibiliadau sydd gan dechnolegau digidol i’w cynnig yn ddiddiwedd.
Trefniadau archwiliad mewnol mewn cynghorau tref a chymuned Mwy am y digwyddiad hwn Dyma’r ail mewn cyfres o weminarau ar gefnogi cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Fe gynhaliom weminar yn Chwefror 2017 ar Reolaeth a llywodraethu ariannol mewn cynghorau cymuned. Mae rolau cynghorau tref a chymuned yn cynyddu o ran eu cyfraniadau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gyda hynny daw angen i sicrhau bod eu prosesau mewnol eu hunain yn cefnogi'r anghenion hyn.