Mwy am y digwyddiad hwn
Dyma’r ail mewn cyfres o weminarau ar gefnogi cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Fe gynhaliom weminar yn Chwefror 2017 ar Reolaeth a llywodraethu ariannol mewn cynghorau cymuned.
Mae rolau cynghorau tref a chymuned yn cynyddu o ran eu cyfraniadau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gyda hynny daw angen i sicrhau bod eu prosesau mewnol eu hunain yn cefnogi'r anghenion hyn.
Mae’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliad (Cymru) 2014 yn galw ar gynghorau tref a chymuned i gael trefniadau digonol ac effeithiol ar waith ar gyfer archwiliad mewnol o’u cofnodion cyfrifo a’u systemau rheolaeth fewnol.
Bydd y weminar hon yn gyfle gwych i gynghorau ddod ynghyd naill ai fel unigolion neu mewn grwpiau i geisio eglurder ar y pwyntiau fydd aelodau’r panel yn eu codi.
Pwy ddylai fynychu
Mae’r weminar wedi ei hanelu at Gynghorwyr Tref a Chymuned a Chlercod i'r Cynghorau.
Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch arfer.da@archwilio.cymru.
Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu hanfon 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Cofiwch roi'ch cyfeiriad e-bost wrth gadw lle fel y gallwn anfon gwybodaeth atoch.
Rydym yn rhoi hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynadleddwyr, sy'n rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses gofrestru.
Cynnwys cysylltiedig
Adroddiad - Trefniadau Archwilio Mewnol Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru
Adroddiad - Rheoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned