Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026: meithrin sgiliau ar gyfer y dyfodo

09 Chwefror 2026
  • Cynhelir Wythnos Prentisiaethau Cymru eleni rhwng 9 -15 Chwefror 2026.

    Nod yr wythnos yw dod â dysgwyr, sefydliadau a darparwyr hyfforddiant at ei gilydd mewn dathliad cenedlaethol o werth prentisiaethau. Mae prentisiaid yn dod â buddion i'r sefydliadau a'r unigolyn. Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan ac yn tynnu sylw at sut mae ein prentisiaethau yn ein helpu i ennill safbwyntiau newydd a ffres ac adeiladu sgiliau amrywiol ar gyfer y dyfodol. Bydd ein prentisiaid hefyd yn arddangos sut maen nhw'n ennill sgiliau gwerthfawr ac yn dysgu yn y gwaith, tra hefyd yn astudio ar gyfer eu cymwysterau.
    ,
    Rydym yn angerddol iawn am ddarparu cynllun prentisiaethau yn Archwilio Cymru. Nid yn unig yr ydym am fuddsoddi yn y sgiliau cyllid yn ein sefydliad ond hefyd buddsoddi yn y sgiliau cyllid ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae ein prentisiaid presennol yn gwneud cyfraniad gwych i’n gwaith, ac rydym yn gyffrous i fod yn eu dathlu. Cyfarwyddwr Gweithredol Cyflenwi Archwilio, Ann-Marie Harkin
    ,
    Cadwch lygad allan ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol am ein straeon ar lwyddiant a'n huchafbwyntiau. Byddwn yn rhannu blogiau, tystebau a fideos. Dilynwch #WPCymru2026 i ymuno â'r dathliad.