Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Archwilio Cymru’n canfod cynnydd ers ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ond ceir cwestiynau o hyd ynghylch sut y bydd yn ariannu gwelliannau pellach ac yn mesur eu heffaith.
Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi gwneud dechrau cadarnhaol o ran ymdrin â phryderon ynghylch ei ddiwylliant, ei berfformiad a’i drefniadau llywodraethu a nodwyd mewn adroddiadau allanol diweddar. Mae hyn yn cynnwys canfyddiadau’r adolygiad annibynnol o’i ddiwylliant, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024. Fodd bynnag, yn awr mae angen iddo ddangos sut y bydd yn ariannu gwelliannau pellach ac a yw’n cyflawni deilliannau gwell i gymunedau ledled De Cymru.
Mae adroddiad newydd gan Archwilio Cymru, Cyflawni newid, mesur effaith?, yn bwrw golwg ar y camau y mae’r Awdurdod wedi eu cymryd i sicrhau gwelliant parhaus ers ymyrraeth Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024. Ers hynny, mae pedwar comisiynydd wedi bod yn goruchwylio’r Awdurdod, a hwythau wedi disodli’r cynghorwyr a enwebwyd gan gynghorau. Mae eu gwaith hwy wedi cael ei lywio gan gylch gorchwyl a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ac wedi bod yn canolbwyntio ar ymdrin â’r 174 o argymhellion a wnaed gan gyfres o adroddiadau allanol.
Mae’r Awdurdod wedi datblygu rhaglen wella eang ei chwmpas ac wedi gwneud cynnydd o ran ei chyflawni. Fodd bynnag, nid yw wedi cadarnhau sut y bydd yn ariannu cost cyflawni ei gynlluniau trawsnewid, a allai gostio hyd at £19.4 miliwn. Gan y byddai’r cyfanswm hwn yn fwy na’r £17.6 miliwn a oedd ganddo mewn cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy na chyfyngir arnynt ar ddiwedd 2024-25, mae’n golygu efallai na fydd yn bosibl gwireddu ei uchelgeisiau.
Mae’r adroddiad yn argymell bod yr Awdurdod:
Rwyf wedi fy nghalonogi bod yr Awdurdod wedi gweithredu i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd ynghylch ei ddiwylliant a’i berfformiad, ac rwy’n cydnabod ymrwymiad staff sy’n parhau i ddarparu gwasanaeth hollbwysig i gymunedau ledled de Cymru. Mae’r Awdurdod wedi gwneud dechrau da, ond rhaid iddo ddangos yn awr bod ei raglen wella’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl leol ac yn cyflawni gwerth am arian trethdalwyr. Mae hynny’n golygu bod yn glir ynghylch ei flaenoriaethau, deall costau hynny a dangos sut y mae newid yn gwella deilliannau.