Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi tynnu sylw at y ffaith bod System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar gam tyngedfennol

08 Gorffennaf 2022
  • Ym mis Hydref 2020, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad yn edrych ar weithrediad cyffredinol System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.

    Rydym wedi bod yn cadw golwg ers hynny ar gynnydd yn gyffredinol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i'n hargymhellion.

    Ysgrifennodd yr Archwilydd Cyffredinol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 1 Gorffennaf 2022 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf, gan dynnu sylw at y ffaith bod rhaglen System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru bellach ar gam tyngedfennol yn dilyn 'Adolygiad Strategol' diweddar a chyda rhai cerrig milltir cytundebol allweddol nad ydynt ymhell o'n blaenau.

    Adlewyrchwyd llawer o'r materion a amlygwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yng nghanfyddiadau'r Adolygiad Strategol, a argymhellodd gyfres o gamau gweithredu i 'ailosod' a 'chywiro hynt' y rhaglen.

    Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cyllid pellach yn ddiweddar ar gyfer rheoli rhaglenni cenedlaethol er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Bydd hefyd yn rhoi cymorth ariannol pellach i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o'i weithredu.

    Fel yr amlinellwyd yn llythyr yr Archwilydd Cyffredinol, mae PAPAC wedi dangos diddordeb mewn ailedrych ar faterion ehangach yn ymwneud ag iechyd a gofal digidol yn yr hydref.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Dilyniant System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru

    Gweld mwy