Heddiw, mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2022-23. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf wrth i’r sector cyhoeddus yng Nghymru barhau i ymdopi â byd sy'n newid.
Mae gan archwilio ran hanfodol o ran rhoi'r wybodaeth a'r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, gwleidyddion, penderfynwyr a dylanwadwyr ynghylch pa mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.
Yn y Cynllun hwn, gan gyfeirio at ein Ymgynghoriad sy'n gwahodd sylwadau i lywio ein rhaglen waith archwilio yn y dyfodol, a gynhaliwyd yn ddiweddar, rydym yn crynhoi’r prif ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y ffordd y byddwn yn cyflawni ein rhaglen o waith archwilio dros y blynyddoedd nesaf.
Yn ogystal â nodi ein rhaglenni arfaethedig ar gyfer y 12 mis nesaf, rydym yn nodi nifer o gamau blaenoriaeth a fydd yn cynorthwyo ein gwaith archwilio a’n gwaith o weithredu’r busnes yn 2022-23. Rydym hefyd yn disgrifio'r dulliau y byddwn yn eu defnyddio i fesur, adrodd a myfyrio ar ein perfformiad ac effaith ein gwaith.