Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Heriau i ddod o ran gwario gweddill arian yr UE erbyn diwedd 2023

02 June 2023
  • Mae holl gyllid Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a Rhaglen Datblygu Gwledig yr UE wedi ei ymrwymo i brosiectau, ond mae £504 miliwn yn dal ar gael i’w wario

    Mae risgiau sylweddol yn cael eu rheoli gan WEFO a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cymaint o’r cyllid â phosibl, ond nid yw rhywfaint ohono o dan eu rheolaeth bellach

    Mae Cymru wedi bod yn derbyn cronfeydd Ewropeaidd yn yr hirdymor, a’r rhaglenni mwyaf yw’r Rhaglen Cronfeydd Strwythurol, a reolir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), a’r Rhaglen Datblygu Gwledig, a reolir gan gyfarwyddiaeth materion gwledig Llywodraeth Cymru.

    Canfu ein hadroddiad bod WEFO a Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ymrwymo holl gyllid yr UE i brosiectau a mwy. Fodd bynnag, mae swm sylweddol o arian ar gael o hyd i’w wario erbyn diwedd 2023. Ar ddiwedd mis Mawrth 2023 roedd y ffigwr hwn yn £504 miliwn, gan gynnwys £446 miliwn ar gyfer y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a £58 miliwn ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig.

    Mae WEFO a Llywodraeth Cymru wedi wynebu rhai heriau sylweddol wrth fwrw ymlaen â’r rhaglenni cyllid, gan gynnwys effeithiau pandemig COVID-19 a chwyddiant uchel yn ddiweddar. Mae problemau yn y gadwyn gyflenwi a phrinder gweithwyr wedi effeithio ar y gallu i gyflawni prosiectau hefyd. Er gwaethaf y problemau hyn, mae holl gyllid yr UE a mwy wedi’i ymrwymo i brosiectau a buddiolwyr.

    Fodd bynnag, mae WEFO a Llywodraeth Cymru yn rheoli rhai risgiau sylweddol i ddefnyddio cymaint â phosibl o gyllid yr UE, ond nid yw rhai o’r risgiau hyn bellach o dan eu rheolaeth. Mae risgiau allweddol yn cynnwys amrywiadau yn y gyfradd gyfnewid a dibyniaeth ar brosiectau a buddiolwyr i gyflawni fel y disgwyliwyd. Mae sicrhau trylwyredd parhaus wrth wirio hawliadau a chadw cofnodion da, wedi’i gefnogi gan staffio priodol, hefyd yn bwysig i reoli’r risg y caiff cyllid ei adhawlio wedi hynny gan yr UE.

    Rhwng y ddwy raglen wedi’u cyfuno, mae pob 1% o grant yr UE na chaiff ei wario yn gyfartal i £27 miliwn. Fodd bynnag, mae rheoli’r rhaglenni yn dasg o gydbwyso. Er ei bod yn arfer cyffredin, gan fod yr ymrwymiadau i brosiectau a buddiolwyr yn uwch na’r grant UE sydd ar gael, os caiff yr holl gyllid sydd wedi ei ymrwymo ei hawlio yna bydd angen i Lywodraeth Cymru ariannu gwariant dros 100% grant yr UE.

    ,
    Rwy’n sylweddoli ei bod yn her ceisio gwario cymaint â phosibl o gronfeydd yr UE sy’n weddill. Mae cwblhau’r rhaglenni yn brin yn golygu colli arian i Gymru ond byddai eu cwblhau yn y cyfeiriad arall yn gallu golygu bil sylweddol i Lywodraeth Cymru. Er gwaethaf amgylchiadau anodd, mae’n galonogol gweld bod WEFO a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo holl gyllid yr UE a bod y rhaglenni ar drywydd cadarnhaol o ran gwariant. Mae angen cynnal y cynnydd hwnnw gan hefyd reoli risgiau sylweddol a sicrhau gwerth am arian. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Gwneud y Mwyaf o Arian yr UE – y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a’r Rhaglen Datblygu Gwledig

    View more