clawr yr adroddiad
Gwneud y Mwyaf o Arian yr UE – y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a’r Rhaglen Datblygu Gwledig
02 Mehefin 2023

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio a yw Cymru ar y trywydd iawn i wneud y defnydd gorau o gyllid sy’n weddill o’r UE

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â chylch 2014-2020.

Mae Cymru yn dderbynnydd hirdymor o arian Ewropeaidd, a'r rhaglenni mwyaf yw'r Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a'r Rhaglen Datblygu Gwledig.

Beth wnaethom ganfod?

Canfu ein hadroddiad, er gwaethaf wynebu problemau fel oedi a achoswyd gan bandemig COVID-19, fod holl arian yr UE wedi ymrwymo i brosiectau a mwy. Fodd bynnag, ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd £504 miliwn i'w wario o hyd erbyn diwedd 2023.

Mae ein hadroddiad hefyd yn tynnu sylw at y risgiau allweddol sy'n wynebu Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru wrth iddynt geisio cynyddu faint o grant yr UE sy'n cael ei wario.

Mae heriau o'n blaenau i wario arian sy’n weddill o’r UE erbyn diwedd 2023.

Related News

Heriau i ddod o ran gwario gweddill arian yr UE erbyn diwedd 2023

Hoffem gael eich adborth