Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Canolfan ganser newydd Felindre: costau sylweddol, ond sylfaen digon cadarn ar gyfer penderfyniadau diweddar

04 Chwefror 2026
  • Mae’n rhy gynnar o hyd i wneud asesiad ehangach o werth am arian.

    Mae ein gwaith wedi canolbwyntio ar benderfyniadau a wnaed ers i’r Achos Busnes Amlinellol gael ei gymeradwyo ym mis Mawrth 2021. 

    Ym mis Mawrth 2024, ar ôl cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru, cytunodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (yr Ymddiriedolaeth) ar gontract hirdymor gyda chonsortiwm preifat, ACORN, i ddylunio, adeiladu, ariannu a chynnal a chadw canolfan ganser newydd Felindre (y ganolfan newydd) yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. 

    Nid yw canolfan ganser bresennol yr Ymddiriedolaeth yng Nghaerdydd, sy’n gwasanaethu tua 1.7 miliwn o bobl, yn cael ei hystyried yn addas i’r diben mwyach. Mae gwella gwasanaethau canser yn flaenoriaeth allweddol i GIG Cymru ac mae’r ganolfan newydd yn cefnogi amcanion gofal iechyd cenedlaethol a rhanbarthol. Mae’n rhan ganolog o raglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser ehangach yr Ymddiriedolaeth ar gyfer de-ddwyrain Cymru. 

    Edrychwyd i weld a all yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cymru ddangos sylfaen gadarn ar gyfer penderfyniadau allweddol sydd wedi’i gwneud ynghylch y ganolfan newydd hyd yma. 

    Hyd yn hyn, y ganolfan newydd yw unig brosiect y GIG i ddefnyddio Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect eisoes wedi denu llawer o sylw gan y cyhoedd, gan gynnwys ynghylch ei leoliad, y model o ofal canser, y defnydd o’r MIM, a phenodi ACORN. Mae’r costau hirdymor sylweddol yn golygu bod sylfaen gadarn ar gyfer penderfyniadau yn bwysicach byth. 

    Mae amcangyfrifon cost wedi esblygu dros amser ond, yn sgil oedi yng nghamau olaf datblygiad y prosiect, cafodd ei amlygu i chwyddiant prisiau. Y gost fwyaf arwyddocaol yw’r contract MIM gydag ACORN (contract y ganolfan newydd) y rhagwelir y bydd yn costio £885 miliwn dros 25 mlynedd. O fewn hyn, mae’r gost adeiladu o £321 miliwn yn y contract yn ymddangos yn rhesymol o ystyried gwaith meincnodi a chyngor arall y mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i gael. 

    Yn ogystal â’r contract ar gyfer y ganolfan newydd, mae costau eraill ynghlwm wrth weithredu a rheoli’r ganolfan newydd. Disgwylir i’r costau hyn fod o leiaf £765 miliwn dros 25 mlynedd. 

    Fodd bynnag, rydym yn amcangyfrif y byddai parhau i reoli a chynnal a chadw’r ganolfan bresennol fel arall wedi costio o leiaf £600 miliwn dros 25 mlynedd. Ni fyddai hyn ychwaith wedi sicrhau unrhyw rai o’r buddion ychwanegol y mae’r ganolfan newydd yn eu cynnig. 

    Ar y cyfan, mae’r trefniadau llywodraethu sy’n cefnogi penderfyniadau allweddol yn rhoi sicrwydd eu bod wedi’u gwneud yn briodol. Dilynodd yr Ymddiriedolaeth brosesau achos busnes a rheoli prosiectau sefydledig yn ddigon boddhaol, ac ymgymerwyd â gwaith craffu priodol a chafwyd mewnbwn priodol gan arbenigwyr a rhanddeiliaid. Gwnaeth y broses gaffael ddilyn y rheoliadau a oedd ar waith ar y pryd, wedi’i llywio gan gyngor cyfreithiol helaeth. Er ein bod wedi nodi meysydd i’w gwella yn y rhannau o’r broses a archwiliwyd gennym, nid ydym o’r farn eu bod yn tanseilio uniondeb cyffredinol y penderfyniadau terfynol i fwrw ymlaen â’r contract ar gyfer y ganolfan newydd. 

    Bydd p’un a yw gwariant ar y ganolfan newydd yn darparu gwerth am arian yn dibynnu ar a yw’n darparu’r buddion disgwyliedig dros amser ac mewn amgylchedd newidiol ar gyfer gwasanaethau canser. Bydd hefyd yn dibynnu ar a yw darpariaethau i ddiogelu’r pwrs cyhoeddus yng nghontract y ganolfan newydd yn sefyll yn gryf.

    ,
    Y cyrff dan sylw sydd wedi bod yn gyfrifol am y penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud am brosiect y ganolfan newydd, gan ystyried y costau cyffredinol a’r risgiau cynhenid sy’n ymwneud â chontractau cyllid preifat hirdymor. Er fy mod yn cydnabod bod yna rai sy’n parhau i wrthwynebu’r prosiect, mae’r prosesau a ddilynwyd gan yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod a archwiliwyd gennym wedi darparu sylfaen digon cadarn, ar y cyfan, ar gyfer y penderfyniadau hynny. Fodd bynnag, nid yw ein canfyddiadau yn golygu na fydd yna broblemau wrth fynd ati i adeiladu a gweithredu’r ganolfan newydd. A bydd rhaid aros rhai blynyddoedd cyn y gellir gwneud asesiad ehangach o werth am arian. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cyllid preifat – effaith gyhoeddus

    Gweld mwy