Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Archwilio'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre.
Ym mis Mawrth 2024, ar ôl cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru, cytunodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (yr Ymddiriedolaeth) ar gontract hirdymor gyda chonsortiwm preifat, ACORN, i gyflawni’r gwaith o ddylunio, adeiladu, cyllido, a chynnal a chadw Canolfan Ganser Felindre newydd yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Gwnaethom archwilio a all yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cymru ddangos sail gadarn dros y penderfyniadau allweddol a wnaed ar Ganolfan Ganser newydd Felindrehyd yn hyn.
Gwnaethom ganolbwyntio ar ddatblygiadau o amgylch ac ers cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol ym mis Mawrth 2021, gan gynnwys y broses gaffael, cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn, a’r contract y cytunwyd arno. Nid ydym wedi archwilio’r cynnydd gyda’r gwaith adeiladu (er ein bod yn trafod y materion cysylltiedig), y model o ddarparu gofal, na’r dewis lleoliad ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre.
Ni ystyrir bod canolfan ganser bresennol yr Ymddiriedolaeth yng Nghaerdydd, sy’n gwasanaethu oddeutu 1.7 miliwn o bobl, yn addas i’r diben mwyach. Mae gwella gwasanaethau canser yn flaenoriaeth allweddol i GIG Cymru ac mae Canolfan Ganser newydd Felindre yn cefnogi amcanion gofal iechyd cenedlaethol a rhanbarthol. Mae’n rhan ganolog o raglen ehangach Trawsnewid Gwasanaethau Canser yr Ymddiriedolaeth ar gyfer de-ddwyrain Cymru.
Bydd Canolfan Ganser newydd Felindre yn cael ei chyllido, yn rhannol, gan Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru. Trwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, bydd ACORN yn adeiladu ac yn cynnal a chadw Canolfan Ganser newydd Felindre yn gyfnewid am Daliad Gwasanaeth Blynyddol sy’n daladwy am 25 mlynedd.
Hyd yn hyn, Canolfan Ganser newydd Felindre yw’r unig brosiect GIG i ddefnyddio’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Mae’r prosiect eisoes wedi denu llawer o ddiddordeb cyhoeddus, gan gynnwys ynghylch ei leoliad, y model o ofal canser, y defnydd o’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, a phenodi ACORN. Mae’r costau hirdymor sylweddol yn gwneud sicrhau bod sylfaen gadarn dros benderfyniadau hyd yn oed yn bwysicach.
Mae amcangyfrifon cost wedi datblygu dros amser, ond cynyddodd oediadau dros y camau olaf o ddatblygiad prosiect Canolfan Ganser newydd Felindre ei amlygiad i chwyddiant prisiau. Y gost mwyaf sylweddol yw’r contract Model Buddsoddi Cydfuddiannol gydag ACORN (contract Canolfan Ganser newydd Felindre) y rhagwelir y bydd yn £885 miliwn dros 25 mlynedd. O fewn hyn, mae’r gost adeiladu ar gontract o £321 miliwn yn ymddangos yn rhesymol o ystyried meincnodi a chyngor arall yr Ymddiriedolaeth.
Yn ogystal â chontract Canolfan Ganser newydd Felindre, mae costau eraill wrth roi Canolfan Ganser newydd Felindre ar waith a’i rheoli. Disgwylir i’r costau hyn fod yn £765 miliwn o leiaf dros 25 mlynedd.
Fodd bynnag, rydym yn amcangyfrif y byddai parhau i reoli a chynnal a chadw’r ganolfan bresennol fel arall wedi costio o leiaf £600 miliwn dros 25 mlynedd. Byddai hyn hefyd wedi bod heb unrhyw fuddion ychwanegol y mae Canolfan Ganser newydd Felindre yn eu cynnig.
Yn gyffredinol, mae’r trefniadau llywodraethu sy’n cefnogi penderfyniadau allweddol yn rhoi sicrwydd eu bod wedi eu gwneud yn briodol. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi dilyn prosesau rheoli achosion busnes a phrosiectau sefydledig yn ddigon boddhaol, a bu gwaith craffu priodol, cyfraniad arbenigol, a chyfraniad gan randdeiliaid. Dilynodd y broses gaffael y rheoliadau a oedd ar waith ar y pryd, a lywiwyd gan gyngor cyfreithiol helaeth.
Er ein bod wedi nodi meysydd i’w gwella yn y rhannau o’r broses a archwiliwyd gennym, nid ydym yn ystyried eu bod yn tanseilio uniondeb cyffredinol y penderfyniadau terfynol i fynd rhagddo â chontract Canolfan Ganser newydd Felindre. Er enghraifft:
Bydd p’un a yw gwariant ar Ganolfan Ganser newydd Felindre yn cyflawni gwerth am arian yn dibynnu ar a yw’n cyflawni’r buddion disgwyliedig dros amser ac mewn amgylchedd sy’n newid ar gyfer gwasanaethau canser. Bydd hefyd yn dibynnu ar a yw darpariaethau yng nghontract Canolfan Ganser newydd Felindre i ddiogelu’r pwrs cyhoeddus yn sefyll yn gryf.
Mae ein gwaith wedi edrych yn ôl ar benderfyniadau a wnaed a’r prosesau a’u dilynodd. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud pedwar argymhelliad blaengar. Maent yn cynnwys argymhellion ar gyfer: