Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Angen brys i ddod o hyd i ddull mwy cynaliadwy o ran arbedion costau yn y GIG

05 June 2025
  • Arbedion a gyflawnwyd gan sefydliadau'r GIG yn 2023 – 24

    Mae sefydliadau'r GIG yn cyflawni arbedion mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys atal gweithgareddau penodol, lleihau gwariant, ac ail-lunio gwasanaethau i ddarparu gofal yn fwy effeithlon. Yn 2023-24, cofnododd sefydliadau'r GIG yng Nghymru eu lefel uchaf o arbedion ers 2018-19, gyda chyfran uwch o'r arbedion hyn yn arbedion rheolaidd. Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymdrechion hyn - a'r £425 miliwn ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru - nid oedd yr arbedion yn ddigon i gydbwyso'r llyfrau. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y ffeithlun isod.

    Ffeithlun yn dangos arbedion ariannol a diffygion ar gyfer 2021-22 i 2023-24. Adran chwith: Eicon banc mochyn gyda £210 miliwn o arbedion yn 2023-24, £70.3 miliwn yn fwy na 2022-23 a £90.2 miliwn yn fwy na 2021-22. Adran dde: Eicon saeth grwn yn dangos bod 59% o arbedion 2023-24 yn rheolaidd, i fyny o 40% yn y ddwy flynedd flaenorol. Adran waelod: Eicon siart bar gyda diffyg o £183 miliwn yn 2023-24, o'i gymharu â £150 miliwn yn 2022-23 a £47 miliwn yn 2021-22.
    Ffynhonnell: Offeryn Data Cyllid GIG Cymru Archwilio Cymru 2023-24

     

    Er bod fy archwiliad o gyfrifon y GIG ar gyfer 2024-25 yn dal i fynd rhagddo, mae golwg gynnar ar y ffigurau'n dangos bod sefydliadau'r GIG yng Nghymru wedi cyflawni £253 miliwn mewn arbedion, ac roedd 61% ohonynt yn rheolaidd. Er gwaethaf y cynnydd cadarnhaol hwn - a chwistrelliad ychwanegol o £450 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar ben y £425 miliwn ychwanegol a ddarparwyd yn 2023-24 - gwnaethant orffen y flwyddyn gyda diffyg cyfunol o £124 miliwn.

    Yn ddiweddar, rwyf wedi rhannu cyfres o adroddiadau ar ein gwefan sy’n adolygu sut y gwnaeth sefydliadau'r GIG fynd i'r afael ag arbedion costau yn 2023-24. Caiff dadansoddiad manylach ei gynnwys yn Offeryn Data Cyllid y GIG 2024-25 sydd ar fin dod.

    Er bod y ffigurau ar gyfer 2024-25 yn dangos rhywfaint o welliant, mae'r sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn anghynaladwy. Mae angen i sefydliadau'r GIG - yn enwedig byrddau iechyd - ddod o hyd i ffyrdd o ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac sydd yn gadarn yn ariannol, tra'n parhau i ddiwallu safonau hanfodol o ansawdd a diogelwch.

    Canfyddiadau allweddol o’m gwaith

    Mae'r canfyddiadau allweddol o'm gwaith wedi'u hamlinellu isod. Er bod y canfyddiadau hyn yn gyffredin ar draws sefydliadau’r GIG, mae'n bwysig nodi nad ydynt yn berthnasol yn gyfartal gan fod rhai yn fwy amlwg mewn rhai sefydliadau nag eraill.

    Mae gan sefydliadau'r GIG ddealltwriaeth dda o’r ffactorau sy’n ysgogi costau

    Mae gan sefydliadau'r GIG ddealltwriaeth gref o'r hyn sy'n ysgogi eu costau. Gwnaethant gyflawni arbedion sylweddol mewn meysydd gwariant uchel megis cyflogau staff (£87 miliwn), rheoli meddyginiaethau (£31 miliwn), a chostau nad ydynt yn ymwneud â chyflog megis cyfleustodau ac adeiladau (£65 miliwn). Fodd bynnag, mae lle o hyd i gwtogi'n fwy ar gostau - yn enwedig trwy drawsnewid sut y caiff gwasanaethau eu darparu. Maes allweddol i'w wella yw lleihau'r ddibyniaeth ar staff asiantaeth costus, a'r gost i GIG Cymru yn 2023-24 yn ei hun oedd £262 miliwn.

    Nid yw pob cyfle ar gyfer arbedion yn cael ei wireddu

    Er bod sefydliadau'r GIG yn defnyddio rhywfaint o ddata meincnodi i nodi arbedion posibl, gwelais fod eu defnydd o'r wybodaeth hon yn anghyson. O ganlyniad, mae angen iddynt gymhwyso'r holl ddata a mewnwelediadau sydd ar gael yn fwy effeithiol ac yn fwy cyson i wneud yr uchafswm o ran cyfleoedd arbed costau.

    Ceir gor-ddibyniaeth o hyd ar arbedion afreolaidd

    Gostyngodd arbedion untro afreolaidd fel canran o gyfanswm yr arbedion a gyflawnwyd gan sefydliadau'r GIG o 60% yn 2022-23 i 41% yn 2023-24. Ond gwelais fod y rhan fwyaf o sefydliadau'r GIG yn dal i ddibynnu’n ormodol ar arbedion tymor byr untro. Nid yw'r dull hwn yn ategu eu hiechyd ariannol hirdymor nac yn mynd i'r afael â diffygion cyllideb sylfaenol.

    Mae angen mwy o ymgysylltu â chlinigwyr a staff

    Gwelais fod ymwneud â staff clinigol a rheng flaen wrth nodi cyfleoedd arbed costau yn brin. Mae’n hanfodol cynnwys yr aelodau staff allweddol hyn yn fwy gweithredol er mwyn sicrhau bod newidiadau'n seiliedig ar ddarparu gwasanaethau o ddydd i ddydd.

    Gwelais hefyd nad yw byrddau GIG bob amser yn derbyn diweddariadau clir ar sut y caiff arbedion eu cyflawni. O ganlyniad, rwyf wedi datblygu rhestr wirio i helpu aelodau byrddau i ofyn y cwestiynau cywir i sicrhau bod gan eu sefydliadau brosesau cryf ar waith ar gyfer nodi, cyflawni ac olrhain arbedion cynaliadwy. Mae'r rhestr wirio hon ar gael ar ein gwefan.

    Beth sydd angen digwydd?

    Mae'n galonogol gweld sefydliadau'r GIG yn cyflawni lefelau uwch o arbedion nag mewn blynyddoedd ynghynt. Ond mae cyfleoedd yn parhau iddynt gryfhau eu hymdrechion ymhellach i fynd i’r afael â maint y pwysau ariannol y maent yn parhau i’w hwynebu.

    Er mwyn symud tuag at iechyd ariannol hirdymor, dylai sefydliadau'r GIG:

    • Parhau i ganolbwyntio ar nodi a chyflawni arbedion rheolaidd yn hytrach nag arbedion untro.
    • Manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio offer data a meincnodi yn fwy cyson ac yn fwy effeithiol.
    • Cryfhau sgiliau ariannol ar draws y gweithlu.
    • Cynnwys staff clinigol, timau gweithredol, a defnyddwyr gwasanaeth mwy mewn cynllunio arbedion a thrawsnewid gwasanaethau.

    Gwnaeth fy adroddiadau diweddar ar Wasanaethau Canser ac ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ddangos hefyd y gall symud tuag at atal gael effaith gadarnhaol ar gyllidebau'r sector cyhoeddus. Mae'n rhaid i'r math hwn o feddwl hirdymor fod wrth wraidd y ffordd y mae sefydliadau'r GIG a Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer y dyfodol - yn enwedig wrth iddynt weithio i gwrdd â'r pwysau ariannol sy'n gysylltiedig ag anghenion gofal iechyd cynyddol y boblogaeth.

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Trefniadau Arbed Costau

    Gweld mwy