Seminar dysgu a rennir ar chwythu'r chwiban

15 Medi 2015
  • Peidiwch ag anwybyddu’r chwythwr chwiban – sut mae cael y gorau gan staff sy’n poeni digon i godi pryder.

    Rydym yn cael ein hatgoffa’n gyson o ganlyniadau trasig pan mae gweithwyr yn ymatal rhag siarad am gamymarfer. Yn rhy aml, pan maent yn gwneud hynny, maent yn cael eu gwobrwyo gyda therfyn cynnar ar eu gyrfa.
    Roedd helyntion Canol Swydd Stafford yn drychineb y gellid bod wedi’i osgoi yn Lloegr ac mae’r llywodraeth, rheoleiddwyr a chyflogwyr wedi dysgu’r ffordd galetaf am chwythu’r chwiban nad yw’n gweithio.

    Yn y seminar yma, bu’r cynrychiolwyr yn rhannu a dysgu dulliau gwahanol o ymdrin â chwythu’r chwiban yn effeithiol yn eu sefydliadau eu hunain, sut mae'n teimlo o safbwynt y person sy’n chwythu’r chwiban, a ble i ddarganfod offer ac adnoddau i wneud y defnydd mwyaf o’r wybodaeth werthfawr yma.
     

    Ar gyfer pwy oedd y digwyddiad yma

    Roedd y seminar yma wedi ei anelu at staff yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn y swyddi canlynol:

    • Aelodau Cabinet/Anweithredol gyda phortffolio Llywodraethu            
    • Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol  
    • Rheoleiddwyr 
    • Cyfarwyddwyr Corfforaethol
    • Swyddogion Clinigol Gweithredol
    • Comisiynwyr

    Cyflwyniadau

    1. Beth yw chwythu'r chwiban a pham mae'n bwysig? [PDF 1.4MB Agorir mewn ffenest newydd] - Cathy James, Public Concern at Work
    2. Persbectif Rheolwr ar Chwythu'r Chwiban [PDF 456KB Agorir mewn ffenest newydd] - Ian Hughes, Swyddfa Archwilio Cymru
    3. Pa mor hyderus ydych chi byddai eich sefydliad yn gwneud y peth iawn pan mae cyflogai eisiau chwythu'r chwiban? - Neil Gray, Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon a Duncan Warmington, y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Dileu Llygredd a Thwyll (TEICCAF)

     Cyfryngau cymdeithasol

     

Agenda

Register for this event
About You
Name
In person event details